Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gorau’r Goreuon

Llenyddiaeth

Dirgelwch y Dieithryn

Elgan Philip Davies

Pan mae Iwan, Mair a’u ffrindiau’n gweld dyn dieithr, blin yn y tŷ gwag wrth y parc maen nhw’n gwybod yn syth beth yw e – lleidr! Eu tasg nhw dros wyliau’r haf yw ei ddal. Rhaid cael cynllun, a hynny ar unwaith – ymunwch â’r ffrindiau yn eu hantur gyffrous!

O’r Tywyllwch

Mair Wynn Hughes

Stori afaelgar, hynod berthnasol i’n dyddiau ni. Mae’r byd wedi’i lygru a rhaid i bawb ffoi i’r Ddinas o dan y ddaear. Beth mae Hywyn am ei wneud â Sam ei gi, gan nad oes hawl mynd ag anifeiliaid i’r Ddinas? Sut mae Hywyn a’i ffrind Meilyr am dwyllo’r awdurdodau wrth i’r milwyr gadw llygad barcud ar bawb?

Luned Bengoch

Elizabeth Watkin-Jones

Dewch yn ôl mewn amser i Gymru’r bymthegfed ganrif – cyfnod ymdrechion Glyn Dŵr i sicrhau rhyddid i Gymru. Mae Rhys a Luned am ymuno â’i ymgyrch, ond daw’r ddau wyneb yn wyneb â pheryglon. Mae Luned yn gymeriad penderfynol, ond mae ganddi ei brwydau mewnol ei hun i’w hymladd. Cyhoeddwyd Luned Bengoch yn wreiddiol ym 1946, ac mae’n parhau i fod yn glasur o nofel sy’n addas i bob oedran.

Mwy am Gorau’r Goreuon YMA.

Mae tair cyfrol Gorau’r Goreuon, bellach ar gael o’ch siop lyfrau leol.

Dewch o hyd I’ch siop lyfrau leol YMA.

RHANNWCH