Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod yr achos Coronafeirws

Llenyddiaeth

Mae achosion o glefydau heintus, fel Coronafeirws (COVID-19), yn gallu codi ofn arnom ac effeithio ar ein hiechyd meddwl.

Er ei fod yn bwysig i fod yn wybodus, mae nifer o bethau y gallwn eu gwneud i gefnogi a rheoli ein lles yn ystod adegau fel hyn.

Dyma rai awgrymiadau a all eich helpu chi, eich ffrindiau a’ch teulu i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod adeg pan fo cymaint o drafodaeth am fygythiadau potensial i’n hiechyd corfforol.

Ceisiwch osgoi dyfalu ac ymchwiliwch i ffynonellau dibynadwy.

Mae straeon a dyfalu’n gallu ychwanegu at orbryder. Mae cael mynediad i wybodaeth o ansawdd da am y firws yn gallu eich helpu i deimlo mewn rheolaeth.

Iechyd Cyhoeddus Cymru
Galw Iechyd Cymru
Gov.uk

Dilynwch y cyngor am hylendid, er enghraifft golchi eich dwylo’n amlach nag arfer, am 20 eiliad gyda sebon a dŵr cynnes (canwch ‘Penblwydd Hapus’ i’ch hun ddwywaith i sicrhau eich bod yn gwneud hyn). Dylech wneud hyn pan fyddwch yn cyrraedd y gwaith neu’n dychwelyd o’r gwaith, yn chwythu eich trwyn, yn tisian neu’n peswch, yn bwyta, neu’n ymdrin â bwyd. Os na allwch chi olchi eich dwylo’n syth, defnyddiwch hylif diheintio (hand sanitiser) ac yna’u golchi pan gewch chi’r cyfle.

Dylech hefyd ddefnyddio hancesi papur os ydych chi’n tisian a sicrhau eich bod yn eu gwaredu’n gyflym; ac aros gartref os ydych chi’n teimlo’n sâl.

Ceisiwch aros mewn cysylltiad

Yn ystod adegau o straen, rydym yn gweithio’n well mewn cwmni a chyda cefnogaeth. Ceisiwch gadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau a’ch teulu neu cysylltwch â llinell gymorth i gael cymorth emosiynol.

Cadwch mewn cysylltiad â ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol ond ceisiwch beidio â gorgynhyrfu pethau. Os ydych chi’n rhannu erthyglau ac ati, defnyddiwch ffynonellau dibynadwy, a chofiwch efallai bod eich ffrindiau’n poeni hefyd.

Cadw trefn feunyddiol

Mae’n syniad da i gadw at eich trefn feunyddiol. Efallai eich bod am ganolbwyntio ar y pethau allwch chi eu gwneud os ydych chi’n teimlo y gallwch:

technegau rheoli straen ac ymlacio
gwneud ymarfer corff
bwyta deiet cytbwys

Siaradwch â’ch plant

Mae cynnwys ein teulu a’n plant yn ein cynlluniau ar gyfer iechyd da yn hanfodol. Mae angen i ni wrando a gofyn i’n plant beth y maen nhw wedi ei glywed am y firws a’u cefnogi, heb eu dychryn.

Mae angen i ni leihau’r effaith negyddol y mae’n ei gael ar ein plant ac esbonio’r ffeithiau iddynt. Trafodwch y newyddion â nhw ond ceisiwch ag osgoi eu gorlwytho â gwybodaeth am y firws. Byddwch mor onest ag y gallwch. Ceisiwch drafod â nhw mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Mae rhywfaint o ofid yn normal

Mae’n normal i deimlo’n fregus ac wedi’ch gorlwytho wrth ddarllen newyddion am y firws, yn enwedig os ydych chi wedi profi trawma neu broblem iechyd meddwl yn y gorffennol, neu os oes gennych chi gyflwr iechyd corfforol hirdymor sy’n eich gwneud yn fwy agored i effeithiau’r coronafeirws.

Mae’n bwysig cydnabod y teimladau hyn ac atgoffa’n gilydd i ofalu am ein hiechyd corfforol ac iechyd meddwl. Dylem hefyd fod yn ymwybodol o arferion nad ydynt yn fuddiol yn yr hirdymor, fel ysmygu ac yfed, ac osgoi cynyddu ein defnydd o’r rhain.

Ceisiwch dawelu meddwl y bobl rydych yn gwybod sy’n bryderus a chadw mewn cysylltiad â phobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain.

Ceisiwch beidio â gwneud rhagdybiaethau

Peidiwch â dod i gasgliadau am bwy sy’n gyfrifol am ledaenu’r clefyd. Gall Coronafeirws effeithio ar unrhyw un, waeth eu rhyw neu hil.

Ceisiwch reoli sut rydych yn dilyn y newyddion

Mae llawer o sôn am y firws ar y newyddion ar hyn o bryd. Os ydych chi’n teimlo bod y newyddion yn peri straen i chi, mae’n bwysig i gael cydbwysedd. Does dim rhaid i chi osgoi’r newyddion yn gyfangwbl, mae’n bwysig i fod yn wybodus, ond gallwch gyfyngu ar faint o’r newyddion yr ydych chi’n ei weld.

Sut y dylai pobl ymdopi â hunan-ynysu neu bod mewn cwarantîn?

Os oes posibilrwydd bod gennych Coronafeirws, mae’n bosib y gofynnir i chi aros gartref (hunan-ynysu).

I bobl sy’n hunan-ynysu neu mewn cwarantîn, efallai y bydd hyn yn anodd iawn. Gall fod o gymorth i geisio ei ystyried fel cyfnod gwahanol o amser yn eich bywyd, ac nid un sy’n wael o reidrwydd, hyd yn oed os na wnaethoch ei ddewis.

Bydd hyn yn golygu rhythm bywyd gwahanol, cyfle i gadw mewn cysylltiad ag eraill mewn ffyrdd gwahanol i’r arfer. Cysylltwch ag eraill yn rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, dros e-bost neu ar y ffôn, gan eu bod o hyd yn ffyrdd da o fod yn agos i’r bobl sy’n bwysig i chi.

Crëwch drefn feunyddiol sy’n blaenoriaethu hunan-ofal. Efallai byddwch am ddarllen mwy neu wylio ffilmiau, gwneud ymarfer corff, rhoi cynnig ar dechnegau ymlacio, neu ddysgu am bwnc newydd ar y we. Ceisiwch ymlacio a gweld hyn fel profiad newydd, anarferol, a all fod o fudd i chi.

Sicrhewch fod eich anghenion iechyd ehangach yn cael eu gofalu amdanynt, fel sicrhau bod gennych ddigon o’ch meddyginiaethau presgripsiwn.

RHANNWCH