UPROAR
17/02/24 | 19:30
UPROAR – Ensemble Cerddoriaeth Newydd Cymru yn dychwelyd gyda’i brosiect diweddaraf ar gyfer 17 o gerddorion, gan hyrwyddo rhai o’r lleisiau mwyaf cyffrous ym myd cerddoriaeth glasurol Cymru heddiw ochr yn ochrâ chyfansoddwyr rhyngwladol sydd wedi ennill sawl gwobr.
Tri darn newydd o gerddoriaeth glasurol feiddgar a fydd yn mynd â chi ar daith, wedi’u hysbrydoli gan fywyd cyfoes yng Nghymru ac yn ymdateb iddo. Bydd UPROAR hefyd yn perfformio cerddoriaeth gan gyfansoddwyr rhyngwladol adnabyddus. Mae trac sain deinamig Olga Neuwirth yn ategu ffilm haniaethol chwareus Viking Eggeling yn ei darn ‘Symphonie Diagonale’. Ac yn ‘Son of Chamber Symphony’ gan John Adams, cyfansoddwr byw mwyaf poblogaidd y byd, disgrifiwyd y symudiad olaf yn y Los Angeles Times fel ‘..one of those Adams bucking-bronco blastoffs, riveting and full of surprises.”
Pris tocyn: £6
Croestoriadau/ Intersections
18/01/24 | 15:00
Canolfan Ymchwil SOUND/IMAGE (Prifysgol Greenwich), Luxi Tian (Guzheng) ac Electroacwstig Cymru comisiwn gŵyl newydd gan Jo Thomas (Cascade infinity) ynghyd â chyfansoddiadau a rhaglenni clyweledol eraill gan Andrew Knight-Hill, Brona Martin, Emma Margetson a Jim Hobbs, ymhlith eraill.
Pris Tocyn: £6