Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pererin Wyf #3 Gareth Bonello: Deialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi

Cerddoriaeth

Prosiect celfyddydau cyfranogol yw Pererin Wyf / Is oilithreach mé / I am a Pilgrim sy’n ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le. Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn.

Tá Pererin Wyf, (a chiallaíonn Is Oilithreach Mé i nGaeilge) ina togra rannpháirtíoch ealaíne arb aidhm leis ceangal a dhéanamh idir diaspóraí na Breataine Bige agus na hÉireann le béim speisialta ar Pheambróg agus Loch Garman agus ar thuras nua trasteorann a fhorbairt d’fhonn na háiteanna seo a Nascadh. Is as iomann de chuid an naoiú haois déag leis an scríbhneoir bisiúil Breatnach William Williams Pantycelyn a thagann ainm agus inspioráid an togra.

Cynhaliwyd y drydedd sesiwn o Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim ar y 27ain o Hydref gyda chyflwyniad gan y cerddor a chanwr Gareth Bonello. Rhannodd Gareth ei brofiad o recordio cerddoriaeth a gweithio gyda cherddorion yn Meghalaya, Gogledd Ddwyrain India. Ysbrydolwyd y gwaith yma gan y genhadaeth Fethodistaidd Gymreig a deithiodd i Meghalaya yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan fynd â’u hemynau gyda nhw gan gynnwys emynau William Williams, Pantycelyn.

Comisiynwyd Pererin Wyf gan y prosiect Cysylltiadau Hynafol a arweinir gan Gyngor Sir Penfro gyda’r partneriaid Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford. Ariennir y gwaith gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.

RHANNWCH