Yr angen i weithredu am hyfforddiant am ddim i holl athrawon Cymru a hynny’ n ddwyieithog yn lle fod yn rhaid i athrawon dalu eu hunain am hyfforddiant a hynny yn amser prin eu hunain.
Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn adnabod problemau ynghlwm â diagnosis hwyr i blant a diffyg adnoddau a hyfforddiant i addysgwyr, a hynny’n benodol yn y Gymraeg. Yn sgîl y prosiect mae’r Ganolfan yn gwahodd pobl sydd â dyslecsia; pobl sydd â phlant, partneriaid, ffrindiau neu rieni sydd â dyslecsia; a phobl sy’n gweithio gyda rhai sydd ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia i rannu eu profiadau. Gellir rhannu profiadau trwy ddilyn y ddolen hon. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cefnogi gwaith Canolfan Miles i wneud y llwybr tuag at ddiagnosis a chael mynediad at gefnogaeth yn haws.