Cartref digidol diwylliant Cymru.

Fy Ynys Las gan/by Eddie Ladd

Does unman yn debyg i gartref. Ond sut mae dod i ’nabod y lle arbennig hwnnw go iawn?

Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, mae Eddie Ladd, yr artist a’r berfformwraig arobryn, wedi symud gartref i fyw gyda’i mam ar y fferm lle cafodd ei magu – Maesglas. Ym mhob twll a chornel o’r llecyn rhyfeddol hwn – y ffermdy, y beudy, y clôs a’r tŷ tato – mae Eddie yn ail-ymweld â hanes y teulu, straeon y gymuned leol, ac atgofion am ei gyrfa hir ac amrywiol ei hun.

Comisiwn Digidol Newydd Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales, mewn partneriaeth gyda BBC Cymru Wales a BBC Arts

Artist: Eddie Ladd
Rheolwr Cynhyrchu: Angharad Mair Davies
Rheolwr Technegol: Dan Jones
Rheolwr Llwyfan Technegol: Macx Roche
Dramatwriaeth: Sarah Bickerton + Arwel Gruffydd
Capsiynydd Caeedig: Chris Harris

RHANNWCH