Cartref digidol diwylliant Cymru.

Fy Silff Lyfrau : Sonia Edwards

Llenyddiaeth

Llun: Emyr Young

Dydi’r rhan fwyaf o fy llyfrau i ddim ar silff, a hynny oherwydd nad ydi fy nhŷ i ddim digon mawr i arddangos fy llyfrgell i’r byd. Ac mae’n well gen i hynny. I mi, mae llyfrau’n bersonol, yn cynnal mwy o atgofion na’r hyn sydd rhwng eu cloriau’n unig. Mae gen i lyfrau ac ynddynt negeseuon wedi’u bwriadu ar gyfer neb arall ond y fi. Mae gen i lond croglofft o lyfrau mewn bocsys, rhai yn y gegin, yn y garej, yn fy ystafell fyw, a hyd yn oed yn y car. Ac ar fy nesg yn barhaol am na alla’ i ddychmygu peidio â bod yn ddigon agos ato i allu cydio ynddo bob dydd, mae Cilmeri a Cherddi Eraill.
Y llyfr sydd gen i ar y gweill wrth y gwely ydi Troubled Blood, nofel dditectif ddiweddaraf Robert Galbraith / J. K. Rowling. Yn y pentwr oddi tano a ddarllenwyd eisoes mae The Unlikely Pilgrimage of Harold Fry gan Rachel Joyce, a nofelau gan Joanna Cannon, David Nicholls, John Grisham a Lee Child. Ar y bwrdd coffi ar hyn o bryd mae Llwybrau’r Cof gan Elen Wyn Roberts, Simple Comforts Mary Berry, a’r Odliadur. Oes, mae gen i ddiddordebau eang ac amrywiol! Yn y cwpwrdd o dan y teledu mae cyfrolau Kate Roberts a Rhiannon Davies Jones, ynghyd â’r Golau yn y Gwyll Alun Llywelyn-Williams, Cerddi Newydd Crwys ac Un Nos Ola Leuad. Yno hefyd mae cerddi R. S. Thomas, ysgrifau T. H. Parry-Williams, a rhwng Gwyn Thomas a Robin Llywelyn nytha hen ffefrynnau fy mhlentyndod, Esyllt a Luned Bengoch. A rhwng y rheiny wedyn, am reswm nas gŵyr neb ond Ysbryd Hap a Damwain ei hun, llyfr bach tenau o’r enw How to Care for Your Puppy!
Mae Ted Hughes a Sylvia Plath efo’i gilydd yng nghwpwrdd y seidbord, yn ddiddig wrth ochr mwy o waith R. S., W. B. Yeats ac Ishiguro. Yn y gegin lle mae llestri te fy nain mae’r Oxford Book, ynghyd â chopi bregus o’r Testament Newydd a gafodd fy nhad yn hogyn yn yr ysgol Sul. O, a’r Gwin a Cherddi Eraill I. D. Hooson … wrth gwrs!
Ar silff fechan ddiymhongar y tu allan i’r stafell molchi mae Gerallt eto, a Gerwyn ac Iwan a Dic, O! Tyn y Gorchudd a Llyfr Glas Nebo, Ian McEwan ac Annie Proulx. Dim lle ar y silffoedd? Dim lle ar y ddalen chwaith! Y llyfrau yn fy mywyd? Ddown i byth i ben …

Gavi gan Sonia Edwards yw Llyfr y Mis, mis Hydref, Cyngor Llyfrau Cymru.
Cofiwch fod modd archebu dros y ffon ac ar-lein gan siopau llyfrau ar draws Cymru yn ystod y cyfnod clod byr.
Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol YMA

RHANNWCH