Cartref digidol diwylliant Cymru.

Fy Silff Lyfrau | My Bookshelf – John Sam Jones

Llenyddiaeth

Am ddeng mlynedd ar hugain bu fy ngŵr, Jupp, a minnau’n casglu llyfrau. Gan fod ein cartref yn ddideledu roeddem yn darllen – yn darllen llawer iawn! Wrth gwrs, doeddwn i ddim yn darllen y nofelau a’r llyfrau hanes yr oedd o’n eu darllen mewn Almaeneg, a doedd o ddim yn darllen y nofelau Cymraeg y byddwn i’n eu darllen yn achlysurol, ond roedd llawer o’r llyfrau Saesneg yn cael eu rhannu, eu trin a’u trafod, a hyd yn oed eu gosod mewn trefn yn ein cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn bersonol. Ac yna, yn 2017, symudodd y ddau ohonom i fyw i’r Almaen ac fe werthwyd ein llyfrau, neu eu rhannu ymysg cyfeillion, neu eu cyfrannu i siopau elusen. Felly mae fy silffoedd llyfrau heddiw yn llwm iawn!

Doeddwn i fawr o ddarllenydd pan oeddwn i’n ifanc; roeddwn yn cymysgu rhwng un llythyren a’r llall, yn araf yn datblygu’r gallu i adnabod geiriau, yn gweld darllen yn fwrn – ac roedd darllen yn uchel yn y dosbarth yn hunllef! Unwaith y gwnes i ddechrau mwynhau darllen – yn ystod cyfnod prifysgol – roeddwn yn teimlo bod gen i waith dal i fyny, ac am flynyddoedd lawer byddwn yn darllen ambell lyfr gan awduron a oedd wedi marw yn ddiweddar – E. M. Forster, Agatha Christie, Kingsley Amis, Christopher Isherwood, Doris Lessing, John Fowles, Iris Murdoch … a phob yn ail â’r rhain byddwn yn darllen gwaith Americanwyr (yn bennaf) a ysgrifennai am fywydau dynion hoyw, llyfrau y gwnes i eu darganfod ar ôl darllen Giovanni’s Room gan James Baldwin.

Ar ôl symud i Berkeley, Califfornia, yn 1981 i astudio Diwinyddiaeth darganfûm nofelau Edmund White (A Boy’s Own Story, 1982) a gwaith awduron eraill oedd yn rhan o’r Violet Quill Club – Andrew Holleran (Dancer from the Dance, 1978) a Felice Picano (An Asian Minor, 1981), a dod yn ymwybodol yn fuan iawn o’r casgliadau o straeon byrion hoyw, Men on Men – Best New Gay Fiction. Rhwng canol yr 1980au a 2000 cyhoeddwyd deg cyfrol yn y gyfres. Yr awduron hyn, ynghyd â’r nofelau a’r straeon byrion hyn, gynigiodd ryw lun o siâp i fy mywyd fel dyn hoyw, a herio’r naratif ‘mad, bad and sad’ oedd wedi ymdreiddio i mewn i mi o’r môr o straeon negyddol am ddynion hoyw yr oeddwn wedi bod yn boddi ynddo. Wrth gwrs, nid Americanwr mohonof, a doeddwn i ddim bob tro yn gweld adlewyrchiad ohonof i fy hun yn y straeon, felly ar ôl cryn ystyriaeth (a chryn oedi), cefais fy ysbrydoli i ysgrifennu straeon byrion am fywydau dynion hoyw o Gymru. Mae hi bellach yn un mlynedd ar hugain ers i’m casgliad cyntaf o ffuglen fer, Welsh Boys Too, gael ei gyhoeddi!

Ers i mi fudo i’r Almaen rwyf wedi datblygu perthynas wych efo Gwyn Siôn Ifan yn siop Awen Meirion yn y Bala. Rwy’n trosglwyddo arian i Gwyn bob rhyw ychydig fisoedd ac mae o’n anfon llyfrau i mi – y rhan fwyaf ohonynt yn llyfrau Cymraeg. Yn ystod misoedd hirion y cyfnodau clo rwyf wedi darllen Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros, Gavi gan Sonia Edwards, Ymbapuroli gan Angharad Price, Plant Magdeburg gan Sion Hughes, Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos, a’r nofel wych Gabriela gan John Roberts.

Ac mae yna dri llyfr sydd wedi cael cartref gen i ar y daith hon am ddeugain mlynedd, bron – tri llyfr sydd wedi cyfoethogi fy mywyd yn arw, ac sy’n parhau i’w gyfoethogi … ond bydd rhaid i chi ddarllen Y Daith Ydi Adra (neu The Journey is Home) i ddarganfod pa lyfrau ydyn nhw.

Y Daith Ydi Adra gan John Sam Jones (cyfieithiad Sian Northey) yw Llyfr y Mis mis Gorffennaf Cyngor Llyfrau Cymru.


Mynnwch gopi o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH