Hyd yn oed fel oedolyn, mae englynion yn fy nychryn. Dwi ’rioed wedi teimlo’n ddigon ‘clyfar’ neu ‘llenyddol’ i allu mwynhau englyn. Bron y buaswn yn dweud mod i’n teimlo nad oedd gen i ‘hawl’ i wneud. Maen debyg fod na sawl un wedi teimlo’r un fath â mi – fod englynion ar gyfer pobl ‘glyfar’ a’r rheiny sy’n dda yn y Gymraeg yn unig. Gobeithio, y bydd y llyfr yma’n llwyddo i’ch darbwyllo fel arall…
Wedi i mi ddarllen Fy Llyfr Englynion ddwywaith o glawr i glawr, rwy’n falch iawn o allu dweud nad ydw i’n ofni’r englyn bellach, ac o’i ddarllen fy mod i wedi cael syniad llawer gwell o un o drysorau Cymru. Dydw i ddim yn hollol siŵr eto os fydda i’n gallu ’sgwennu fy englyn fy hun, ond dwi’n mynd i drio herio fy hun i wneud erbyn diwedd y flwyddyn!
Mae’r llyfr yn llai nac oeddwn i wedi ei ddychmygu, ond, wedi meddwl, dyma faint perffaith ar gyfer ei ffitio mewn poced neu fag – ni ddylai’r llyfr yma fod yn casglu llwch ar silff, ond yn cael ei ddefnyddio a’i fwynhau gan y genhedlaeth nesaf o feirdd. Bach ydi englyn hefyd wrth gwrs, ac ni ddylid barnu ar sail maint yn unig. Mae cymaint o gyfoeth mewn englyn, sy’n golygu bod llond trol yn perthyn i’r gyfrol hon. O ran y llyfr ei hun, clawr caled sydd iddo ac mae ’na lyfrnod rhuban del ar gyfer cadw’r dudalen – touch bach neis.
Dwi’n reit embarrassed i ddweud nad oeddwn i’n llawn ddeall beth oedd englyn cyn heddiw. Dwi wedi clywed amdanyn nhw, do, ond doeddwn i ’rioed wedi mynd ‘o dan y bonet’ fel petai er mwyn gweld yr injan! Diddorol iawn oedd dysgu am y rheolau sy’n gwneud englynion mor swynol ac unigryw. Am syniad gwych oedd creu cyfrol liwgar, sy’n cyflwyno plant ifanc i ran bwysig iawn o’n diwylliant a’n traddodiad ni yng Nghymru. Mae’n drysorfa o englynion hyfryd, rhai yn hen ffefrynnau gan feirdd megis Dic Jones a Thomas Richards, ac eraill yn fwy cyfoes gan feirdd megis Karen Owen a Tudur Dylan Jones. Mae’r llyfr hefyd yn dipyn o ‘how to guide’ ar yr un pryd. Dyma yw cryfder y llyfr – yn hytrach na chyflwyno’r englynion yn unig, fe â’r llyfr gam ymhellach a chynnig esboniad o’r geiriau anghyfarwydd gyda nodiadau manwl sy’n egluro ystyr y penillion. Dwi’n hoff iawn o’r ffaith fod y llyfr yn esbonio ac yn gwneud hynny heb fod yn patronising.
Mae’r golygydd, Mererid Hopwood, wedi sôn sawl gwaith am bwysigrwydd y cof, a dwi’n mawr obeithio y bydd plant yn rhoi cynnig ar geisio cofio rhai o’u hoff englynion, am mai pethau i’w hadrodd ar lafar a’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth ydi englynion.
Pŵer englyn yw cymryd peth, teimlad neu ddigwyddiad go gyffredin ac amlygu’r hyn sy’n hynod amdano – tynnu ein sylw at fawredd a hud yr hyn yr ydym ni’n ei gymryd yn ganiataol neu’n eu diystyrru. Dyma deitlau rhai o englynion y gyfrol: ‘Afal’, ‘Y Gwely’, ‘Cwestiwn’ ac ‘Y Pry Cop’. Mae’r rhain i gyd yn bethau sy’n rhan o’n bywydau beunyddiol, ond mae’r englynion hyn yn edrych arnynt o bersbectif gwahanol, gan wneud inni eu gweld mewn golau newydd.
Nid yr englynion yw unig elfennau hyfryd y gyfrol hon ychwaith. Ceir llun lliwgar gan Alice Samuel i gyd-fynd â phob englyn, sydd wir yn eu cyfoethogi ac yn ychwanegu at greu naws a theimlad yr englynion. Trowch at ‘Y Gorwel’ gan Dewi Emrys neu ‘Nyth’ gan Roger Jones, i enwi dim ond rhai o fy hoff gyfuniadau o lên a llun.
Llongyfarchiadau i’r wasg newydd, Beirdd Bach, ar eu cyhoeddiad cyntaf. O ystyried safon y gyfrol gyntaf, rwy’n rhagweld dyfodol llewyrchus i’r fenter ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y cyhoeddiad nesaf.