Pam cyhoeddi cyfrol o englynion i blant?
Mae’r englyn yn rhywbeth unigryw i ni’r Cymry ac yn rhan mor bwysig o’n hetifeddiaeth ni; eto, nid pawb sy’n cael magwraeth ar aelwyd lle mae englynion ar gof a chadw rhieni neu mewn cyfrol ar y silff lyfrau. Ein teimlad ni yn Barddas oedd bod angen llyfr fel hwn er mwyn helpu rhannu’r traddodiad yn helaeth a gofalu bod pawb o bob oed yn cael budd ohono.
Sut aethpwyd ati i ddewis yr englynion yn y gyfrol?
Roeddwn i’n awyddus i sicrhau bod rhai o’r ‘hen ffefrynnau’ yn y gyfrol, yn ogystal â rhai mwy cyfoes. Roeddwn hefyd yn cadw llygad ar ystod y themâu, gan obeithio y byddai athrawon yn gweld sut mae modd cyflwyno pob math o bynciau drwy ddysgu englyn. Mae testunau’r maes llafur newydd i gyd rhwng cloriau’r llyfr bach hwn – o’r Dyniaethau i Wyddoniaeth, o Iechyd a Lles i Gelfyddyd … ac, wrth reswm, Iaith a Llenyddiaeth.
At bwy y bydd y gyfrol yn apelio?
Rwy’n gobeithio y bydd y gyfrol yn apelio at unrhyw un sy’n caru barddoniaeth neu sydd eisiau dysgu mwy am ein traddodiad ni yng Nghymru. Mae lluniau hyfryd a lliwgar Alice Samuel yn helpu dehongli’r englynion ac yn siŵr o ddenu sylw’r darllenwyr iau. Yna, mae nodiadau bach ar bob tudalen (ac eto yn y cefn) yn cynnig arweiniad pellach ac yn gymorth, gobeithio, i sylwi ar y pethau sydd rhwng y geiriau.
Soniwch fwy am ‘Beirdd Bach’.
Menter newydd yw ‘Beirdd Bach’ gan Gymdeithas Barddas gyda’r nod o sicrhau bod ein hamcan o hyrwyddo barddoniaeth yn cyrraedd darllenwyr ifanc yn ogystal â’r rhai nad ydynt bellach mor ifanc ag y buon nhw. Rydym wedi cyhoeddi llyfrau i blant yn y gorffennol, e.e. y llawlyfr Cynghanedd i Blant, ond gyda’r label ‘Beirdd Bach’, byddwn yn mynd ati’n fwy bwriadol i wasanaethu’r gynulleidfa hon.
Fy Llyfr Englynion yw Llyfr y Mis i Blant mis Hydref Cyngor Llyfrau Cymru.
Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.