Cartref digidol diwylliant Cymru.

Ffion Griffiths

Artist BLOCK

Mae’r darnau hyn o gelf yn darlunio’r cyflwr dryslyd yr wyf yn cael fy hun ynddo ar hyn o bryd fel artist. Rwy’n ei chael hi’n anodd teimlo’n gyffrous am unrhyw beth rwy’n ei wneud. Wrth weithio ar rywbeth, rwy’n cyrraedd pwynt lle na allaf barhau a lle nad oes gennyf lawer o olwg arno. Fodd bynnag, y broses o wneud y gelfyddyd sy’n fy nghadw’n frwdrydig. Creu marciau, dod o hyd i’r cysylltiad hwnnw rhyngof i a’r deunyddiau. Treuliais fisoedd yn teimlo’n ddifater, ac yn ddigalon na allwn gynhyrchu unrhyw beth apelgar yn weledol ac nid oedd unrhyw gysyniadau na syniadau wedi fy ysbrydoli ddigon i wneud gwaith. Penderfynais ddathlu’r ffaith a chofleidio’r bloc, dod o hyd i ffordd newydd o weithio a’i ddefnyddio fel cromlin ddysgu. Rwy’n credu na ddylai neb deimlo’n euog am golli’r awen. Weithiau efallai mai dyma’r peth sy’n eich ysbrydoli i greu eto.

RHANNWCH