Cartref digidol diwylliant Cymru.

Farmers Townies and Grockles

Bydd y cynhyrchiad hir-ddisgwyliedig hwn yn cael ei berfformio mewn lleoliadau cymunedol mewn dwy sioe yn unig:

Dydd Gwener Mawrth 22 – Ffwrn, 6 Stryd y Cwm, Abergwaun, SA65 9HH am 7:30yh (nifer cyfyngedig
o leoedd)
Dydd Sadwrn Mawrth 23ain – Canolfan Gymunedol Pill, Cellar Hill, Aberdaugleddau, SA73 2QT
3:00yh

Talwch yr hyn y gallwch ar gyfer y sioe newydd gyffrous hon!

Archebwch eich lle ar wefan Celfyddydau SPAN!

Mae’r sefydliad Celfyddydau SPAN yn un o 16 sefydliad yn y DU sy’n partneru ag Unlimited, corff comisiynu’r celfyddydau sy’n cefnogi, ariannu a hyrwyddo gwaith newydd gan artistiaid anabl a niwroamrywiol ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol.

Dyfarnwyd y comisiwn i’r actor, awdur a sylfaenydd cwmni theatr Popty Ping Productions, Ceri Ashe, i greu ‘Ffermwyr, Pobl y Dref a Grocls’, drama ddwyieithog, wedi’i chyfarwyddo gan Anna Sherratt, sy’n adrodd straeon gwir pobl Sir Benfro.

Mae theatr air am air yn cael ei greu o eiriau pobl go iawn. Mae Ceri Ashe (Bipolar Fi, Chwedlau’r Cyfnod Clo:Bara a Babanod) wedi bod yn cynnal gweithdai adrodd straeon ac yn cyfweld â phobl o bob rhan o Sir Benfro am eu bywydau. Mae’r straeon gwir hyn wedi’u plethu a’i gilydd i greu brithwaith o leisiau sy’n archwilio’r hyn mae’n golygu i fod yn un o drigolion yr ardal wledig hon. O ffermwyr ym Marloes, athrawon Cymraeg wedi ymddeol yng Nghilgerran, barmon yn Hafan Fach (Little Haven), i hyfforddwyr Zumba yn Aberdaugleddau – mae’r sioe newydd gyffrous hon yn archwilio themâu perthyn, cymuned a newid.

Mae hefyd yn olwg onest ar y materion sy’n wynebu pobl yn Sir Benfro heddiw: diffyg tai fforddiadwy, y dirywiad mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, a dyfodol ffermio. Meddai Ceri: “Rwyf wastad wedi cael fy nghyfareddu gan yr ystod amrywiol o bobl y mae Sir Benfro yn gartref iddynt, ac mae wedi bod yn bleser mynd allan i’r gymuned i siarad â phobl o ogledd a de’r sir i greu’r ddrama hon. Rwyf wedi gweithio gyda SPAN yn y gorffennol i greu dramâu air am air ar-
lein yn ystod y cyfnod clo, ac mae mor gyffrous nawr gallu creu sioe theatr fyw gyda chast gwych o actorion proffesiynol a chymunedol, pob un o Sir Benfro.”

Meddai Bethan Touhig-Gamble, cyfarwyddwr Celfyddydau SPAN: “Mae bod yn rhan o’r Comisiwn Unlimited sy’n hyrwyddo artistiaid anabl a niwrowahanol wedi cefnogi SPAN i fuddsoddi i greu’r gwaith newydd arbennig hwn. Rydym yn falch o allu creu llwyfannau ar gyfer pobl greadigol amrywiol yn Sir Benfro i adrodd eu straeon eu hunain a chreu gwaith sy’n wrthryfelgar, radical, anturus, ysbrydoledig a chwareus.”

RHANNWCH