Cartref digidol diwylliant Cymru.

Erin Donnelly

Mae gen i ddiddordeb mewn syniadau sy’n ymwneud â’r cartref a’r cof, a’u rôl wrth ffurfio hunaniaeth. Roeddwn i eisiau archwilio sut i herio’r rheidrwydd i ddilyn strwythur Ilinol mewn naratif personol, gan fod y cof ynddo’i hun yn aml yn aflinol a thameidiog. Rydym yn aml yn camgofio elfennau o’n gorffennol, ac mae’r ffordd yr ydym yn asesu ein profiadau ein hunain yn cael ei llywio nid yn unig gan y cof yn unig, ond trwy atgofion a thueddiadau eraill.

Mae’r cyfuniad o weithiau a ddewiswyd yn adlewyrchu’r ddeuoliaeth sy’n gysylltiedig â’r cof, y cartref a myfyrio. Mae yma dynerwch, cynefindra a chysur, ond oerni hefyd. Mae hyn yn cyflwyno gwrthdaro a dryswch o fewn y gwaith, gan adlewyrchu’r emosiynau croestynnol a ddaeth yn sgil y broses o fewnsyllu, sy’n newid dros amser.

Teimlais fy mod yn cael fy nenu at archwilio’r ystyron personol sy’n gysylltiedig â’ch profiadau a’ch atgofion unigol eich hun, ond hefyd cyffredinolrwydd posibl yr ystyron hynny. Rwyf am bortreadu atgofion a theimladau personol mewn ffordd nad yw’n amlwg ddidactig, gan adael lle i gamddealltwriaeth trwy elfennau sy’n cael eu tynnu o’u cyd-destun neu eu cuddio mewn rhyw ffordd.

RHANNWCH