Cyhoeddwyd y newyddion ar BBC Radio Cymru mewn darllediad arbennig o raglen Stiwdio ar nos Lun 2 Awst. Yn cadw cwmni i’r cyflwynyddNia Roberts roedd dau o feirniaid y wobr, Esyllt Sears a Guto Dafydd, ynghyd â’r enillwyr eu hunain.
Mae’r ddwy yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un a thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Mae’r ddwy hefyd yn gymwys am Wobr Barn y Bobl Golwg360 a Phrif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, a gaiff eu cyhoeddi ar Radio Cymru rhwng 9.00 – 9.30 pm ar nos Fercher, 4 Awst.
Nofel ddoniol a thorcalonnus sy’n cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc na welwyd ei thebyg mewn print yn y Gymraeg o’r blaen yw tu ôl i’r awyr. Mae Anest a Deian yn y Chweched Dosbarth a phan maen nhw’n cwrdd, mae byd y ddau yn newid am byth.
Daw Megan Angharad Hunter o Ddyffryn Nantlle ac mae’n astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Y Stamp ac O’r Pedwar Gwynt, ac yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru. tu ôl i’r awyr yw ei nofel gyntaf.
Dyma hefyd gasgliad cyntaf Marged Tudur, sydd wedi derbyn Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru 2019 i weithio ar ei chyfrol. Cyfrol i Dafydd Tudur, brawd Marged, yw Mynd. Mae yma golled a galar, ond cariad, yn fwy na dim byd arall, sy’n llinyn arian drwy’r cerddi hyn.
Daw Marged Tudur yn wreiddiol o Forfa Nefyn ond bellach mae’n byw yng Nghaernarfon. Wedi graddio mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, astudiodd MA Ysgrifennu Creadigol a derbyniodd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth. Mae’n gweithio fel golygydd.
Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol. Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r bardd a’r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr a’r awdur, Esyllt Sears.
Ar ran y panel beirniadu, meddai Esyllt Sears: “Mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd a rhyfedd i bawb mewn gwahanol ffyrdd, mae cael rhywbeth i ymgolli ynddo – i’ch tynnu allan o’r slafdod dyddiol – wedi bod yn gwbl amhrisiadwy. Yn sicr, dyna oedd fy mhrofiad i. Felly, yn ogystal â bod yn fraint enfawr i gael bod yn rhan o banel beirniadu Llyfr y Flwyddyn 2021, roedd cael dianc i fydoedd eraill am awr neu ddwy y dydd am reswm cwbl ddilys yn bleser pur a dwi’n teimlo’n gyffrous iawn i rannu ein ffefrynnau gyda’r genedl.”
Hefyd yn beirniadu’r wobr eleni oedd Guto Dafydd, a ddywedodd: “Roeddwn i’n gegrwth wrth dderbyn y domen enfawr o lyfrau. Sut yn y byd allai blwyddyn mor lom â 2020 gynhyrchu’r fath gynhaeaf llenyddol toreithiog? A sut yn y byd y mae diwylliant lleiafrifol go fregus yn llwyddo i baffio cymaint uwchlaw ei bwysau? Mae cyfoeth yma – o ysgolheictod cyhyrog i farddoniaeth sy’n prosesu profiadau’n grefftus, o nofelau gafaelgar i straeon fydd yn dal dychymyg plant. Mae llamu drwy’r llyfrau wedi ailgynnau fy nghariad at ddarllen – a’u trafod â’m cyd-feirniaid wedi gwneud imi werthfawrogi o’r newydd beth sy’n gwneud llenyddiaeth dda.”
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.
Caiff enillwyr y categori Plant a Phobl Ifanc a’r categori Ffeithiol Greadigol eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru nos yfory (dydd Mawrth 3 Awst) rhwng 9.00 – 9.30 pm, gydag Enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a’r Prif Enillydd yn cael eu cyhoeddi nos Fercher 4 Awst rhwng 9.00 – 9.30 pm.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Derbyniodd Megan a Marged Ysgoloriaeth Awdur gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn gweithio ar tu ôl i’r awyr a Mynd, a braf yw gweld y cyfrolau hyn a’u hawduron talentog yn dod i’r brig yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni. Dyma ddau deitl pwerus, sy’n cynnig cyfraniadau pwysig am iechyd meddwl a phrofiadau cymdeithas, ac sydd yn mynnu lle ar silffoedd llyfrau trwy Gymru gyfan. Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch Megan a Marged, a diolch i’r ddwy ohonynt am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed. Argymhellaf yn fawr ymweliad â’ch siop lyfrau neu lyfrgell lleol, er mwyn darllen y llyfrau gwych yma gan ein hawduron telentog o Gymru.”