Dyma’r cofiant llawn cyntaf i ŵr a ddaeth, yn ystod ei oes ei hun, yn eilun ei genedl. Ynddo ceir portread tra gwahanol o O.M. i’r fytholeg gyfarwydd a grëwyd wedi ei farwolaeth, a gwelir ef yma yn ieuenctid ei ddydd ac yn anterth ei nerth. Rhoddir sylw dyledus i’w yrfa ac i’w fenter fawr i drawsnewid diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Cymru. Cyflwynir yn ogystal y dyn preifat a gaethiwyd gan rym ei obsesiynau a chymhlethdodau ei gymeriad, ac a brofodd ergydion chwerw fel priod a thad. Clywir llais O.M. drwy’r gyfrol, yn ogystal â lleisiau ei wraig, ei deulu a’i ffrindiau.
Mae’r cofiant pwysig hwn yn ffrwyth ymchwil drwyadl, a cheir ynddo wybodaeth gwbl newydd a darganfyddiadau annisgwyl. Fe’i cyhoeddwyd ar ganmlwyddiant marwolaeth Syr O.M. Edwards yn 1920.
Magwyd HAZEL WALFORD DAVIES yng Nghwm Gwendraeth ac addysgwyd hi ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen. Bu’n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Athro ym Mhrifysgol De Cymru, a threuliodd gyfnodau fel Athro Ymweliadol mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau. Bu’n aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, yn gadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth y Cyngor, ac yn gadeirydd Bwrdd Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg y Sector Addysg Uwch yng Nghymru sydd bellach wedi ei ymgorffori yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hi oedd cadeirydd cyntaf Bwrdd Ymgynghorol y DU o Gymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru. Bu’n aelod o Fwrdd yr Academi Gymreig, o Gyngor a Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Bwrdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Etholwyd hi yn Gymrawd yr Academi Gymreig, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.
+++
Mae colli’r bws i’r ysgol yn gallu newid dy fywyd di…
Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref (wedi’r cyfan, mae’r beili wedi mynd â char ei thad), gan ganfod ei hun mewn clwb nos ar lan y môr. Yno, mae hi’n cyfarfod â Shane, dyn golygus, llawn dirgelwch sy’n gwybod rhywbeth am ei gorffennol… cyfrinach allai chwalu ei theulu. Ond mae Rachel yn awchu i gael y gwirionedd ganddo…
Magwyd REBECCA ROBERTS ger y môr ym Mhrestatyn, ac yna mae hi’n byw o hyd gyda’i gŵr Andy a’i phlant, Elizabeth a Thomas. Mae hi wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, cyfieithydd a gweinydd digrefydd. Hi oedd enillydd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg 2017 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mudferwi (Gwasg Carreg Gwalch) oedd ei nofel gyntaf, ac mae ei hail nofel, #Helynt yn rhan o gyfres i bobl ifanc. Mae ysgrifennu yn cymryd dipyn go lew o’i hamser, ond mae hi hefyd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth roc, darllen a mynd i gerdded.