Partneriaeth arloesol rhwng Barddas a BBC Cymru yw cynllun Bardd y Mis sy’n rhoi llwyfan i feirdd er 2014.
Bydd Bardd y Mis yn cael llwyfan newydd ar donfeddi BBC Cymru, gan hefyd gyfoethogi rhaglenni’r BBC.
Gall fod y bardd yn datblygu ei thema eu hunain neu ymateb i sgyrsiau, straeon, caneuon neu raglenni cyfan a glywyd ar yr orsaf. Mae’r cerddi yn cael eu cyhoeddi ar wefan BBC Cymru ar ffurf sain, fideo a thestun.
Pwy all anghofio Llion Jones yn manteisio ar gyfle i sgriptio pennod o Bron Meirion neu Gruffudd Antur yn awgrymu fod “rhywbeth rhwng Geth a Ger” Ym mis Medi 2017 bu Casia William yn cyd-gyfanssodi cân gyda Ynyr Roberts.
Bardd y Mis Radio Cymru Mehefin 2020
Emyr Davies (Emyr y Graig)
Yn wreiddiol o Aber-porth yng Ngheredigion mae’n gweithio fel Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion yn CBAC ers 2001. Cyn hynny, roedd yn gweithio fel tiwtor Cymraeg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin.
Mae Emyr yn talyrna ar Radio Cymru ers 1985, fwy neu lai’n ddi-dor… gyda thîmau Pantycelyn, Marchogion Arthur, Y Taeogion ac erbyn hyn gyda thîm Tir Iarll. Mae hefyd yn ymrysona yn yr Eisteddfod gyda thîm Sir Gâr ers blynyddoedd. Mae’n dysgu dosbarthiadau cerdd dafod ers sawl blwyddyn yng Nghaerdydd, ac mae’r rhain yn cael eu trefnu gan Fenter Caerdydd ar hyn o bryd, ag Emyr yng ngofal y dechreuwyr. Mae’n un o’r rhai fydd yn dysgu dosbarth ar Zoom fel rhan o’r Eisteddfod AmGen eleni.
Diddordebau eraill: Mae Emyr yn canu mewn sawl côr, ac yn arwain côr bois Ar ôl Tri (gw. www.aroltri.cymru), er bod pob gweithgaredd corawl ar stop ar hyn o bryd. Un o’r pethau sy’n cysylltu’r ddau faes yw bod Emyr yn cael cais i drosi caneuon i’r Gymraeg yn weddol aml ac mae hynny’n faes diddorol ynddo’i hun.