Mae arddangosfa sydd i’w gweld yn Llandudno ar hyn o bryd yn cyfuno gwrthrychau o sawl amgueddfa Gymreig a gwaith newydd gan artistiaid cyfoes. Beth mae’r cyfuniad hwn yn ei ddweud wrthym? Dyma ymateb un ymwelydd.
Fel llawer o’m cyd-Gymry, i lawr i’r brifddinas yr es i ganol Mehefin eleni i groesawu cychwyn yr haf Cymreig; dal pelydrau cynta’r haul yng nghaeau Bute a chael blas, yn Tafwyl, ar y seiniau cerddorol a fyddai’n atseinio drwy ein gwyliau. Ond yn fuan wedyn, ar benwythnos heuldro’r haf, es am dro i Landudno i agoriad arddangosfa Oriel Mostyn, Carreg Ateb: Vision or Dream?, i ddathlu dechrau haf y derwyddon Celtaidd a chroesawu presenoldeb rhai o’n hartistiaid cyfoes mwyaf cyffrous – rhai ar ddechrau eu gyrfaoedd – mewn oriel gelfyddyd fodern uchel ei pharch.
A ninnau’n hen gyfarwydd yng Nghymru â’r syniad o droi at gerddoriaeth fel cyfrwng adloniant sy’n gallu mynegi ein hunaniaeth genedlaethol, yn ddiweddar rwyf wedi teimlo bod tro ar fyd ym maes celfyddyd weledol hefyd o ran ennyn diddordeb y cyhoedd. Yn sicr roedd teimlad o’r fath yn Llandudno yn agoriad yr arddangosfa. Dechreuodd y cyfan gyda gorymdaith, wedi’i hysbrydoli gan ffotograffau o baentiadau o’r Oriel Genedlaethol, Llundain, yn cael eu cludo, adeg yr Ail Ryfel Byd, i hen chwarel Manod ger Blaenau Ffestiniog i’w diogelu o dan y ddaear. Yr hyn a gafwyd oedd ailddychmygiad o’r daith honno gan Gwmni Ifanc Frân Wen mewn partneriaeth ag Oriel Mostyn. Roedd yr orymdaith yn sicr yn tynnu sylw wrth iddi gyrraedd promenâd prysur Llandudno, a hithau’n gyfuniad rhyfeddol o greaduriaid chwedlonol a mytholegol a byd ffasiwn ieuenctid heddiw.
Ac wele’r perfformwyr yn cyrraedd, felly, yn eu gwisgoedd coch a gwyn, eu sanau New Balance, eu shin pads Nike a’u sbectols haul Y2K, fel pe baent yn datgan cyfnod newydd i orielau Cymru. Dychwel ein trysorau cenedlaethol ni y maent, o grombil ‘ogofâu’ rhai o’n hamgueddfeydd. Yn nwylo’r ‘curadwyr’ ifanc theatrig, sy’n gwisgo menyg gwynion, mae’r gwrthrychau hyn – sydd ar fenthyg gan Amgueddfa Llandudno, Oriel Gelf Storiel ym Mangor ac Amgueddfa Gwynedd – yn cael eu hailberchnogi.
Yn gymysg â’r gorymdeithwyr coch a gwyn mae rhai eraill sydd wedi’u trawsnewid gan fasgedi gwiail anferth dros eu pennau ac am eu cyrff yn rhyw fath o ffigurau seremonïol. Gwaith Lewis Prosser, un o artistiaid yr arddangosfa, yw’r basgedi. Mae Band Pres Llareggub yno hefyd, a phawb yn dilyn ceidwaid y cistiau gwydr tuag at Oriel Mostyn.
Yno, mae’r croeso’n un Cymreig. I raddau. Y tu allan i’r oriel, wrth geisio cydbwyso plât o fara brith a chacen gri yn un llaw a phaned o de mewn cwpan a soser yn y llall, dwi’n ceisio ateb holiadur ar dabled, sy’n fy atgoffa mai comisiwn i’r artist arobryn o Sais Jeremy Deller gan yr Oriel Genedlaethol yn Llundain yw’r holl arddangosfa. ‘Allan o 1–5, faint ydych chi’n cael eich cynrychioli gan yr Oriel Genedlaethol?’.
Oes, mae eironi’n rhedeg drwy’r prosiect hwn, sy’n gomisiwn i ddathlu deucanmlwyddiant yr Oriel Genedlaethol. Oherwydd nid trysorau’r oriel honno sy’n cael eu dadorchuddio yma, ond trysorau ein ‘hogofâu’ cyfoes ni. Mae gweithiau o’r casgliad cenedlaethol yn cael llwyfan parhaus ar wefan ‘Celf ar y Cyd’ – ceidwad digidol y casgliad – ac mae gan artistiaid cyfoes Cymreig hwythau eu platfformau i rannu eu gwaith. Ond wedi’u dwyn ynghyd yn yr arddangosfa hon, ac yn rhydd rhag yr angen i ffitio i ddosbarthiad thematig gwefan a rhag algorithmau, mae’r artistiaid ifanc a’u gweithiau yn gallu siarad â’i gilydd, megis, a darganfod cysylltiadau newydd. Trwy gyd-osod y gweithiau am y tro cyntaf mewn un gofod, mae’r arddangosa’n codi posibiliadau difyr am yr hyn allai fod, ac wrth grwydro trwyddi daw cwestiwn teitl y sioe ‘Gweledigaeth neu Freuddwyd?’ yn ôl i’n goglais.
Mae ystafell gyntaf yr oriel yn ymdebygu i’r ystafell ddosbarth na fu mewn addysg Gymreig. Eto mewn cistiau gwydr, mae ffotograffau o’r daith a ysbrydolodd yr arddangosfa, replica o bren Welsh Not, bathodyn Meibion Glyndŵr, darganfyddiadau archaeolegol lleol a cherfluniau o waith Kyffin Williams. Yn wahanol i’r gwersi celf a gefais i, ar y cyrion mae Kyffin yn yr arddangosfa hon. Felly hefyd mae gwaith Peter Finnemore – artist sydd, i fi, yn perthyn i’r genhedlaeth goll yn orielau Cymru – dan glo a than warchodaeth yn lle’i fod yn cael anadlu’n iach. Tu ôl i’r gwydr gwelwn gipluniau o’i ffilm Lesson 56 – Wales (1997), a seiliwyd ar ffotograffau o lyfrau ysgol a oedd yn rhan o faes llafur ei fam-gu pan hi’n ddisgybl mewn ysgol yn Sir Gâr. Yn ôl Finnemore, mae’r gwaith yn cynrychioli ‘rôl y wladwriaeth wrth wladychu’r meddwl a’r dychymyg trwy addysg’. Ond faint sydd wedi newid? Tra mae trysor cenedl fel hyn wedi’i gaethiwo yn ei focs gwydr – gwaith artist a gynrychiolodd Cymru yn Biennale Fenis a chyn-enillydd Medal Aur yn yr Eisteddfod – artist arall, Jeremy Deller, sef cyd-guradur yr arddangosfa, sy’n hawlio sedd y prifathro yng nghornel yr ystafell hon, gyda’i brosiect ‘The Uses of Literacy’ (1997) uwch ei ddesg, casgliad o gelfyddyd dilynwyr y Manic Street Preachers. Artist o fri a enillodd Wobr Turner, ond artist o’r tu allan i Gymru, serch hynny, yn edrych i mewn ar y diwylliant Cymreig wrth ymateb i gomisiwn gan oriel Lundeinig.
Yn rhydd o gaethiwed bocsys sgwâr Instagram, mae gweithiau’r artistiaid cyfoes: Gweni Llwyd, Llŷr Evans, Esyllt Angharad Lewis, Sadia Pineda Hameed a Lewis Prosser. Mae cuddio a datguddio’n llinyn arian sy’n rhedeg drwy lawer o’r gweithiau, boed hynny’n cael ei amlygu yn eu harddull neu eu cyd-destun.
Yn ffilm Gweni Llwyd gwelwn ddelwedd o chwarel lechi rywle yn Eryri wedi’i rhannu ar draws dwy sgrîn mewn modd hypnotig, ond cawn ein procio’n effro gan y gwirionedd syml sy’n cael ei leisio gan gymeriad lleol, ‘Ni i gyd ’atha bo’ ni’n chwilio am wbath’. Mae’r artist am inni edrych y tu hwnt i’r darlun arferol o orffennol ardaloedd y llechi, ac wrth i’r llechen gael ei hollti ar y ffilm cawn gip ar haenau newydd i’r hanes gorgyfarwydd trwy gyfrwng cyfweliadau llafar a thoriadau o’r wasg am hanes raves y chwareli.
Yng ngosodwaith Sadia Pineda Hameed, mae ffotograffau o grŵp dawns Philipinaidd a Hawäiaidd yr oedd ei mam yn aelod ohono yn Llundain y 1980au wedi’u chwyddo’n fawr a’u taenu ar draws dwy len helaeth. Mae’r llenni wedi’u ffurfio o stribedi hir o ddarnau o bren a glymwyd ynghyd, ac mae’r ffotograffau felly wedi’u rhannu’n ddarnau, fel y mae atgofion yn aml. Caf ysfa blentynnaidd i redeg drwy’r llenni, sydd fel cyrtans siop gigydd, i gael blas ar brofiad Cymraes arall. Mae’r darn yn cyfleu rhyw aflonyddwch trothwyol ac yn llefaru’n huawdl am natur y cof, am fudo ac am groesi ffiniau o bob math yn ein byd ni heddiw.
Am y tro mae modd ffoi rhag annhegwch y presennol wrth fynd i guddio o dan lwyfan Esyllt Angharad Lewis gyda’i lenni porffor. Yn ei gosodwaith amlgyfrwng mae hi wedi ailymweld â fideo sy’n dogfennu drama am Derfysgoedd Beca a lwyfannwyd gan ei hysgol gynradd. Wrth eistedd ar lawr i wylio’r hen dâp VHS ar y teledu bocs hen ffasiwn, rydw innau’n ôl yn nyddiau’r ysgol fach. Ond nid hiraeth syml sydd yma. Yng nghornel fy llygad mae cas gwreiddiol y VHS, ond mae’r fersiwn sydd ar y sgrîn wedi’i ailysgrifennu gan yr artist gyda throslais a delweddau cyfoes. Ac wrth ei wylio, dwi’n galaru nid am ddiflaniad hen gelfyddyd, ond am sawl dyfodol posib a gollwyd trwy gau ysgolion Cymraeg.
Mae’n braf cael arddangosfa o waith artistiaid Cymreig, un sy’n gwahodd ystyriaeth i’r hen gwestiwn beth mae bod yn artist Cymreig yn ei olygu. I rai, mae’n golygu, yn syml, artist o Gymru neu un sy’n byw yng Nghymru. I eraill, mae’n golygu artist sy’n creu celf am Gymru. Ond gellir dweud cymaint â hyn o leiaf. Mae nifer o themâu sydd i’w gweld yn yr arddangosfa hon – gwaddol safleoedd ôl-ddiwydiannol, dirywiad iaith a chymuned, mudo a chwestiynu cyfreithiau cenedlaethol – yn sicr yn faterion sy’n effeithio ar Gymru heddiw. Ac fel y mae carreg ateb yn creu atseiniau dros ardal eang, felly hefyd, gobeithio, y bydd ymdrechion yr arddangosfa i roi llwyfan teilwng i artistiaid Cymreig ifanc yn cael eu hamlhau ar draws ein gwlad. Gweledigaeth i’w gwireddu ac nid breuddwyd gwrach, siawns.
Aur Bleddyn
Bydd arddangosfa Carreg Ateb: Vision or Dream? i’w gweld yn Oriel Mostyn, Llandudno, tan 27 Medi. Ar 6 Medi bydd perfformiad yn yr oriel gan un o’r artistiaid, Esyllt Angharad Lewis.