Cartref digidol diwylliant Cymru.

Eädyth: Yn fyw o’r Ffwrnes / Live from Ffwrnes

Cerddoriaeth

Bydd y gantores a’r offerynwraig talentog, Eädyth, yn perfformio fel rhan o gyfres ffrydio byw gan Theatrau Sir Gâr, ‘Yn Fyw o Ffwrnes’ a hynny ar nos Wener 5 Chwefror, i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2021.

Mae Eädyth yn enw cyfarwydd i wrandawyr BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru gyda’i sain electronig a lleddf nodedig. Gan gyfuno geiriau dwyieithog a sain electronig a lleddf gydag elfennau o rythm a melanganu modern, mae’r seren o Ynysowen yn cynhyrchu ei gwaith ei hun gan greu ei brand unigryw o gerddoriaeth.

Bydd y sioe yn cael ei recordio’n fyw o Theatr y Ffwrnes yn Llanelli cyn cael ei darlledu i gynulleidfaoedd ar-lein am ddim, ac yn cynnwys perfformiad cyntaf unigryw o’i sengl newydd sbon, Dreaming / Breuddwyd.

RHANNWCH