Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein holl lyfrau yn y gyfres Darllen yn Well bellach ar gael fel e-lyfrau ar Amazon Kindle, gyda rhagor i ddod dros yr wythnosau nesaf. Mae’r llyfrau’n darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth yn y Gymraeg ar faterion fel Dementia, Iselder a Gorbryder. Yn eu plith mae ein llyfr diweddaraf yn y gyfres sef Ymwybyddiaeth Ofalgar: Canllawn Pen-Tennyn, ein haddasiad Cymraeg o A Mindfulness Guide for the Frazzled gan Ruby Wax.
Cliciwch yma i weld yr e-lyfrau ar Amazon Kindle.
Cliciwch yma i weld y llyfrau print ar ein gwefan.