Cartref digidol diwylliant Cymru.

‘Dysgu siarad am ein hunain’‎

BBC Cymru Fyw. 19.09.20

Mae’r cyfnod clo wedi bod yn gyfle i arbrofi a mentro i feysydd newydd, a dyna’n union mae Tara Bethan a’i ffrind Llinos Williams wedi gwneud drwy gyd-gynhyrchu cyfres o bodlediadau yn ymdrin â heriau bywyd.

Tara Bethan sy’n cyflwyno’r podlediadau sydd yn rhoi sylw arbennig i sut mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn gallu helpu drwy gyfnodau hapus ac anodd.
Bydd pennod gyntaf ‘Dewr’ gyda Elin Fflur ar gael i’w lawrlwytho ar Ddydd Sul, 27 Medi, gyda naw pennod arall ar gael bob Dydd Sul yn yr wythnosau i ddilyn.

“Nath Llinos fy ffonio ar ddechrau lockdown yn dweud bod y Cyngor Celfyddydau yn cynnig grant i weithwyr creadigol llawrydd. Roedd hi wedi bod yn gwrando ar podcast iechyd meddwl ac odd hi’n meddwl fyswn i’n dda am gyflwyno rhywbeth tebyg, gan fy mod wastad wedi bod yn agored iawn am faterion iechyd meddwl.

“Dwi ‘di bod yn ffrindia efo Llinos ers blynyddoedd, ond da ni erioed di gweithio efo’n gilydd ar brosiect. Diolch i brofiad Llinos fel cyn-drefnydd Tafwyl a fy mhrofiad amrywiol i o’r byd cyfryngau, roedden ni’n llwyddiannus efo’r grant.

Dewis y gwesteion: “Wrth wneud rhestr o’r bobl delfrydol fysan ni wir wedi hoffi cael ar y podcast, doeddwn i ddim yn meddwl fysan ni’n cael pawb, ond nath pawb ddweud ‘ia’. Da ni ‘di bod mor lwcus i gael arian o bot oedd wedi cael ei greu i helpu bobl oedd wedi colli gwaith yn sgil y pandemig, fel fi a Llinos, ond hefyd da ni wedi gallu rhoi gwaith i nifer o weithwyr creadigol.

“Doedd ‘na ddim criteria i ddweud gwir, ond oedden ni eisiau amrywiaeth eang o bobl o ran oedran a phrofiadau. Yn sicr, roedden ni eisiau i nhw i gyd cael cysylltiad â’r celfyddydau, boed hynny yn eu gwaith neu rhywbeth mae nhw’n wneud i gael pleser, achos y syniad oedd i siarad am heriau bywydau pobl, ond hefyd sut mae nhw’n delio efo’u ymennydd nhw.”

Mae Tara o’r farn bod yr amodau diweddar yn golygu bod pobl yn fwy tebygol o edrych ar ôl agweddau o’u hiechyd a fyddai efallai wedi ei anwybyddu yn y gorffennol:
“Dwi’n meddwl ers lockdown ma pobl yn fwy parod neu fwy ymwybodol o’u iechyd meddwl nhw, ac mae’n cael ei drafod mwy dydi achos mae pawb wedi bod yn styc yn eu tai ag ati. Mae’n amlwg bod llawer o bobl yn troi at gelfyddyd i helpu nhw drwy cyfnodau arbennig.”

DARLLEN MWY

RHANNWCH