Cartref digidol diwylliant Cymru.

Dydyn Ni Ddim yn Siarad Dim Mwy

Prosiect ymchwilio ar gyfer sioe newydd am y profiad o iaith, hunaniaeth a dosbarth Cymraeg, o dan arweiniaeth Rhiannon a Ffion Wyn Morris. Dros yr hydref mae’r ddwy yn cynnal cyfres o weithdai yn archwilio sut mae iaith yn cael ei dysgu, sut rydyn ni’n ymladd dros ieithoedd brodorol, pa ieithoedd newydd sy’n dod i’r amlwg, a beth yw’r berthynas a’r rhagdybiaethau ynghylch dosbarth a’r Gymraeg.

Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 2023
11am-3pm
The Circle Tredegar, NP22 3PS

Chwyldro Bach
Gweithdy ysgrifennu gyda Patrick Jones sy’n ymchwilio i syniadau radical o’r gorffennol er mwyn mynegi syniadau ar gyfer y presennol a’r dyfodol.

Archebwch yma

  

Dydd Sadwrn 25 Tachwedd 2023
12pm-5.30pm
St Mellons Hyb, 30 Crickhowell Rd, CF3 0EF

Gweithdy Lluniadu Blin, gyda Bedwyr Williams
Gan ddefnyddio testun a lluniadau, byddwn ni’n bwrw allan unrhyw bwnc sy’n dân ar eich croen chi ar hyn o bryd. Unrhyw beth, o bethau dibwys i bethau cyffredinol

Archebwch yma

RHANNWCH