Dw i wastad wedi meddwl bod e twtsh yn od bo’ pobol yn cwyno gymaint am ddiffyg sylw i Gymru yn y wasg Brydeinig. Dw i ’di neud e fy hun wrth gwrs – ‘What about Wales?!’ dw i ’di wylefain wrth ymateb i ryw erthygl am wleidyddiaeth gan ryw bapur Saesnig.
Ma’n ddigon naturiol, wrth gwrs… d’yw e ddim yn neis cael eich anwybyddu, dw i’n cofio hynny o ddisgos ysgol! Ond ma ’na rywbeth od am y gri: begian i gael ein trafod gan gyfryngau gwlad arall. Begian i gael gweld ein gwlad yn hun drwy lygaid rhywun o wlad arall… i be?
Tarodd hyn fi yn ystod yr ymateb i glo dros dro Cymru’r wythnos ddiwetha’. Do, fe gafodd Cymru sylw, ond rhyw agwedd ‘look at them!’ oedd i bob darn. Fel llith Dan Hodges yn y Daily Mail… “Dan Hodges braves a visit to Wales… A land of fear and twitching curtains”, fel se fe’n croesi wal Berlin yn y 1960au.
Erthygl yn portreadu hicks drwgdybus oedd hi, wedi’i sgrifennu o safbwynt ‘wel, yn amlwg, ni’n gwbod yn well na rhein’. Fydden i ddim yn awgrymu bo’ chi’n darllen hi, er bo’ ’na bleser o ddetectio ble ro’dd e wedi gorfod ei golygu hi ar ôl i Lywodraeth Lloegr wneud tro pedol a dilyn esiampl Cymru.