Roedd Angharad yn… CARU ei phŵer newydd.
Ers y wers gyntaf yn y gampfa goll roedd y tri ohonynt – Angharad, Aled ac Anni – wedi cael pedair gwers arall. Bob un ar fore Mercher a phob un yn para ugain munud yn union. Roedd yn well gan Angharad y gwersi a oedd yn canolbwyntio ar gryfhau ei meddwl. Roedd y gwersi yma’n cynnwys mathemateg gyflym, datblygu’r dychymyg, a gwella’r cof.
Un ffordd o wella’r cof oedd trwy chwarae’r gêm ‘Beth ddaeth nesaf?’. Byddai Mr Arwyn yn dangos eitemau di-rif i Angharad, Aled ac Anni ac roedd angen i’r tri ohonynt gofio’r eitemau a’r drefn.
“Papur tŷ bach… hosan… tegan… larfa… a photel ddŵr.”
Dyna’r math o eitemau y byddai Mr Arwyn yn estyn amdanynt o’i gas briff ynghanol y gampfa goll gyda’r tri disgybl yn eistedd wedi croesi’u coesau cyferbyn iddo. Byddai Mr Arwyn yn parhau trwy ddweud;
“Mae’ch amser i ysgrifennu’r ugain eitem yn dechrau… NAWR!”
Fel arfer, dim ond Angharad a fyddai’n gallu cofio’r eitemau i gyd, a hynny yn y drefn gywir hefyd.
“Sut wyt ti’n cofio popeth?!” gofynnodd Anni un tro i Angharad ar ôl llwyddo i gofio chwe eitem yn unig.
“Rhwydd! Ti’n creu stori yn dy ben. Fel hyn nes i gofio’r pum eitem olaf; Doedd dim papur tŷ bach ar ôl felly roedd angen i Mr Arwyn ddefnyddio’i hosan. Wedyn aiff Mr Arwyn i chwarae gyda’i degan sy’n dal larfa ond yn sydyn mae’r larfa yn mynd ar dân ac mae’n estyn am ei botel ddŵr i’w ddiffodd… Mae’n haws os ti’n creu stori ddoniol!”
Chwarddodd y ddwy gan ddychmygu Mr Arwyn yn rhedeg o gwmpas fel dyn dwl yn chwilio am ei botel ddŵr i ddiffodd y tân. Diolchodd Anni wrth Angharad am ei help, a’r tro nesaf i’r tri chwarae ‘Beth ddaeth nesaf?’ roedd Anni wedi llwyddo i gofio pymtheg eitem gan ddenu gymeradwyaeth gan Mr Arwyn. Wrth gwrs, y tro yna roedd Angharad wedi cofio’r ugain eitem eto yn y drefn gywir, ond trodd gan wenu fel giât ar lwyddiant Anni.
Roedd y ddwy wedi tyfu’n agos iawn dros y misoedd diwethaf, i’r pwynt roedd Anni wedi dechrau rhannu ei chyfrinachau gydag Angharad.
Roedd Angharad wedi dysgu bod Anni’n hoffi Noa, un o ffrindiau gorau Aled. Hynny yw, hoffi HOFFI Noa. Roedd yna wahaniaeth rhwng hoffi, a hoffi HOFFI yn Ysgol Tir Na Nog ac roedd Angharad wedi dysgu hynny ers yr wythnos gyntaf yn yr ysgol.
Roedd Angharad hefyd wedi dysgu bod Anni’n cnoi gwm am bum munud bob awr ar yr awr, ei bod hi wedi dysgu sut i ddefnyddio colur trwy glipiau ar YouTube, a’i bod yn gobeithio gweld Noa mewn parti dros y penwythnos.
Estynnodd Anni wahoddiad i Angharad ei hymuno i’r parti fel ei plus one, ond roedd Angharad eisiau gorffen ei llyfr y penwythnos hwnnw. Roedd Angharad ynghanol darllen trioleg o lyfrau a dim ond deg pennod a oedd ganddi ar ôl. Parti neu dim parti roedd Angharad am orffen y drioleg cyn gwylio Supergirl am y canfed tro nos Sul.
“Tro nesaf, addo,” atebodd Angharad ei ffrind gorau gyda gwên.
Am eiliad, roedd Angharad yn agos iawn i rannu ei phrif gyfrinach hi wrth Anni, sef ei bod hi’n hoffi HOFFI Aled. Ond cyn iddi gael cyfle i ddweud unrhyw beth, canodd y gloch ac roedd gwers arall yn y gampfa goll wedi dirwyn i ben.