Cartref digidol diwylliant Cymru.

Disgyblion A: Pennod 4 – Y Gampfa Goll

BANG!

WAAAW!

CRASH!

WOOOP!

AHHH!

NAAAAAAA!

Y rheiny oedd y prif synau a oedd yn treiddio trwy waliau’r gampfa goll ar fore Mercher y pedwerydd o Fedi am 8:57 y bore. Cerddodd Angharad, Aled ac Anni allan o’r gampfa goll y bore glawog hwnnw wedi llwyr ymlâdd. Ar ôl ugain munud o drio meithrin eu pwerau roedd y tri ohonynt yn barod i fynd yn ôl i’w gwlâu a chysgu am weddill y diwrnod.

Dechreuodd y sesiwn gyntaf yn y gampfa goll yn ddigon rhesymol. Un wrth un, eglurodd Angharad, Aled ac Anni y pwerau roeddent yn tybio eu bod wedi’u derbyn. Goleuodd wyneb Mr Arwyn wrth glywed am eu pwerau. Yna, holodd Mr Arwyn i’r tri ohonynt drio dangos eu pwerau yn hytrach na’u hegluro.

Trodd Angharad ei meddwl i ganolbwyntio ar gathod, ei hoff anifail anwes, fel digwyddodd y noson o’r blaen. Yn sydyn, trodd Angharad i edrych fel cath fach ddu. Synnodd pawb wrth weld bod Angharad wedi diflannu ac, yn lle, roedd yna gath fach ddu yn mewian ar lawr y gampfa goll. Ond yn fwy na hynny, synnodd Angharad oherwydd y tro yma roedd ei holl gorff wedi newid. Nid dim ond ei phrif nodweddion – ei llygaid, clustiau, blew a chynffon – ond y tro yma roedd gan Angharad bawennau yn lle dwylo ac roedd ei gwallt brown wedi diflannu’n gyfan gwbl ac yn ei le roedd blew du. Roedd pwerau Angharad yn tyfu’n gryfach yn barod!

Neidiodd Anni wrth weld llygaid glas y gath yn treiddio arni gan anghofio’n llwyr mai Angharad oedd y gath fach honno. Mewn fflach, neidiodd Anni’r eildro wrth weld ei hun yn sefyll ble roedd y gath yn gorwedd a mewian eiliadau yn ôl.

“WAW!” dwedodd Aled gan edrych yn gegrwth ar yr Anni newydd.

“Ti ddim o ddifri?! Mae hwnna mor cŵl!” ymatebodd Anni wrth wenu ar ei hefaill newydd.

Heb rybudd, chwarddodd Aled yn groch. Cododd ei law dros ei geg i drio stopio’r sŵn, ond roedd rhywbeth wedi gwneud i Aled chwerthin llond ei fol ac roedd e’n methu stopio.

“Beth sydd mor ddoniol?” holodd Mr Arwyn.

Yn raddol, stopiodd Aled chwerthin a throdd ei wyneb yn ddifrifol. Wrth i Aled ymddiheuro am y chwerthin trodd Angharad yn ôl i fod yn hi ei hun unwaith eto.

“Mae’n amlwg ein bod ni wedi methu’r jôc, Aled. Felly, dywed beth oedd mor ddoniol?” holodd Mr Arwyn eto.

Petrusodd Aled ychydig cyn dweud, “’Nes i glywed chi’n dweud eich bod chi’n edrych ymlaen at weld os all Angharad droi i edrych fel chi Syr fel eich bod chi’n gallu cael diwrnod o wyliau heb i neb wybod. Sori Syr, wnes i ddim trio darllen eich meddwl.”

Chwarddodd Angharad ac Anni ar y syniad o Angharad fel pennaeth newydd Ysgol Tir Na Nog am ddiwrnod! Er mawr rhyddhad i Aled, ymunodd Mr Arwyn yn y chwerthin hefyd.

“Wel, dyna un ffordd o ddangos dy bŵer!” dwedodd Mr Arwyn gan chwerthin hyd yn oed yn fwy.

Nawr roedd hi’n tro Anni i ddangos i bawb ei phŵer newydd. Canolbwyntiodd i ddechrau ar ei llaw dde. Syllodd yn galed ar ei llaw yn y gobaith byddai’r llaw yn diflannu o olwg pawb, ond doedd dim byd yn digwydd. Roedd ei llaw dde a’r pum bys ar y llaw honno yn glir ac amlwg i bawb yn y gampfa goll. Dechreuodd ganolbwyntio ar ei bysedd yn lle, syllodd hyd yn oed yn galetach ar ei phum bys, ond eto digwyddodd dim byd. Yna, canolbwyntiodd ar ei bys bach. Roedd angen i rywbeth ddiflannu neu byddai pawb yn dechrau meddwl ei bod hi’n dweud celwydd. Yn fwy na hynny, byddai pawb yn dechrau meddwl nad oedd hi wir yn rhan o’r tîm cyfrinachol a phwerus wedi’r cyfan!

Ond cyn i Anni golli pob ffydd ynddo’i hun, dechreuodd Angharad glapio a daeth y synau ‘oooo’ ac ‘ahhh’ o gegau Aled a Mr Arwyn.

Doedd Anni ddim yn siŵr beth yn union a oedd yn digwydd am eiliad nes iddi weld ei choesau, neu ddiffyg coesau i fod yn hollol gywir. Roedd ei choesau wedi diflannu ond roedd ei llaw dde mor amlwg ag erioed. Ochneidiodd Anni’n anhapus. Doedd dim syniad gyda hi pam neu sut roedd rhannau gwahanol o’i chorff yn diflannu o hyd ac roedd hynny’n broblem fawr.

Am weddill y wers gyntaf yn y gampfa goll dangosodd Mr Arwyn gwir ehangder ei bŵer, sef y pŵer dros bethau – unrhyw beth ond nid unrhyw un. Hedfanodd hen beli tennis ar hyd y gampfa, ysgwydodd y rhaffau o’r nen, rhwygodd ffenestri’r gampfa goll ar agor â chlep mawr, caeodd drysau’r gampfa goll gyda chlep hyd yn oed yn fwy, a dechreuodd y llawr o dan Angharad, Aled ac Anni symud a chodi!

Yn ôl Mr Arwyn, er mwyn meithrin eu pwerau i’w potensial gorau roedd angen cryfhau’r corff a’r meddwl. Y bore hwnnw, cryfhau’r corff oedd y nod, felly creodd Mr Arwyn gwrs rhwystr anhygoel na welwyd yr un tebyg erioed.

Ochneidiodd Angharad yn dawel wrth ei hun. MWY o ymarfer corff?!

Dilynodd Angharad esiampl Aled ac Anni wrth iddynt neidio dros y clwydi, cropian o dan y rhwydi, dringo’r rhaffau yr holl ffordd i’r nen, a thaflu peli basged i mewn i’r rhwydi. Ar ôl neidio dros y clwydi, cafodd Angharad ychydig o drafferth wrth gropian o dan y rhwydi. Sylwodd Aled ar Angharad a oedd wedi cael ei dal ynghanol y rhwyd. Trodd yn ôl ati gan estyn ei law iddi. Roedd Angharad yn methu credu’r peth. Roedd Angharad am ddal llaw Aled am yr eildro o fewn deuddydd! Gafaelodd Angharad yn llaw Aled ac wrth i Aled ei thynnu trwy’r rhwyd cododd Anni rhan o’r rhwyd er mwyn i’r ddau llithro allan heb drafferth.

“Gwych! Gwaith tîm arbennig, cariwch ymlaen a byddwch wedi meithrin gwir ehangder eich pwerau o fewn dim!” gweiddodd Mr Arwyn arnynt.

Trodd Angharad, Aled ac Anni i edrych ar ei gilydd gan wenu. O’r eiliad honno, roedd cyfeillgarwch unigryw iawn wedi dechrau tyfu rhwng Angharad, Aled ac Anni ac roedd y tri ohonynt yn edrych ymlaen yn fawr at dreulio cofrestru gyda’i gilydd ddydd Mercher nesaf.

RHANNWCH