Cartref digidol diwylliant Cymru.

Disgyblion A: Pennod 3 – Beth yn y Byd?!

Deffrodd Angharad yn sydyn. Synnodd i weld nad oedd hi ar lawr ei hystafell wely y tro yma. Nac ychwaith ar lawr ystafell y prifathro. Yn lle, roedd hi’n gorwedd ar ei gwely ac roedd y cur pen wedi diflannu. O’r diwedd, roedd ei phen yn glir unwaith eto. Ymestynnodd ei chyhyrau gan glicio’i bysedd gan wneud sŵn POP deg gwaith. Eisteddodd yn llonydd am eiliad gan adael i’w meddwl grwydro.

Ers pan ddywedodd Mr Arwyn wrth Angharad, Aled ac Anni fod ganddynt bwerau, roedd Angharad wedi disgwyl y byddai’n teimlo’n ychydig yn wahanol ar ôl hanner awr wedi tri ar y trydydd o Fedi dwy fil a thrideg tri. Ond i’w syndod unwaith eto’r diwrnod hwnnw, doedd Angharad ddim yn teimlo’n wahanol o gwbl. Roedd popeth amdani’n teimlo union yr un peth. Roedd Angharad yn dal i deimlo fel… Angharad.

Cododd Angharad a cherddodd draw at ddrych ei hystafell wely i archwilio ei hun.

“Aaaaaaaaaa!” sgrechiodd Angharad.

O flaen Angharad, yn syllu nôl o’r drych arni oedd… cath. BETH YN Y BYD?! CATH?! Roedd Angharad wedi troi i edrych fel cath! Roedd ei llygaid wedi newid lliw. Yn hytrach na’i llygaid brown tywyll arferol, roedd ganddi lygaid glas golau fel yr awyr ar ddiwrnod braf o haf. Roedd ganddi flew yn tyfu o’i bochau ac o gwmpas ei thrwyn bach smwt. Yn chwifio tu ôl iddi oedd cynffon hir du ac yn pipian uwchben ei gwallt oedd clustiau blewog, trionglog.

Dechreuodd Angharad boeni ei bod hi am orfod byw fel cath am weddill ei hoes! Yn mewian a chanu grwndi’n ddi-baid. Bydd pawb yn yr ysgol chwerthin arni. Hynny yw, byddai pawb yn chwerthin arni pe byddent yn ei hadnabod. Ond doedd Angharad ddim yn nabod ei hun hyd yn oed, felly sut roedd hi’n disgwyl i unrhyw un arall ei hadnabod, hyd yn oed ei mam a’i thad?!

Pwy yn y byd oedd wedi penderfynu bod y gallu i droi i edrych fel cath yn bŵer? Doedd edrych fel cath ddim yn bŵer o bell ffordd! Dechreuodd Angharad feddwl am y pwerau roedd Aled ac Anni newydd eu derbyn – pwerau llawer mwy cŵl a defnyddiol na throi i edrych fel cath. Sut roedd edrych fel cath am achub unrhyw un? Roedd Supergirl erioed wedi holi am help gan gath!

Dechreuodd Angharad deimlo’n genfigennus o Aled ac Anni a fyddai’n gallu defnyddio eu pwerau newydd i achub y dydd gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r byd. Ochneidiodd Angharad wrth feddwl am ba mor boblogaidd byddai Anni gyda’i phŵer newydd cŵl.

Yna, mewn fflachiad chwim newidiodd edrychiad Angharad.

“Aaaaaaaaaa!” sgrechiodd Angharad unwaith eto.

Tro yma, o flaen llygaid Angharad, yn syllu nôl o’r drych arni oedd… Anni! BETH YN Y BYD?! Hedfanodd cwestiwn ar ôl cwestiwn o gwmpas meddwl Angharad, gan gynnwys sut byddai Mr Arwyn yn ymateb i ddwy Anni yn ymddangos i’r wers yn y gampfa goll bore yfory?

Yna, mewn fflachiad chwim eto, newidiodd edrychiad Angharad.

“Aaaaaaaaaa!” sgrechiodd Angharad unwaith eto.

Tro yma, o flaen llygaid Angharad, yn syllu nôl o’r drych arni oedd… Mr Arwyn! BETH YN Y BYD?!

Yna, bron mor gyflym â Supergirl yn hedfan i’r blaned Krypton, deallodd Angharad beth oedd ei phŵer newydd. Ei phŵer newydd oedd y gallu i droi i mewn i unrhyw berson neu unrhyw anifail a ddaw i’w meddwl.

Nawr, roedd hynny’n cŵl!

RHANNWCH