Cartref digidol diwylliant Cymru.

Disgyblion A: Pennod 2 – Ystafell y Prifathro

Deffrodd Angharad unwaith eto ar y llawr, ond y tro yma nid ar lawr ei hystafell wely ydoedd ond ar lawr ystafell y prifathro. Gwelodd wynebau Aled, Anni a Mr Arwyn yn syllu arni o’r nen a chochodd ei gruddiau mewn embaras.

Roedd hi’n methu credu ei bod hi newydd lewygu o flaen pawb. Roedd ei phen yn brifo hyd yn oed yn fwy nawr.

Cyn i Angharad geisio codi i’w heistedd, estynnodd Aled ei law ati. Cymerodd Angharad ei law yn sigledig. Dechreuodd ei chalon guro’n gyflymach. Am eiliad, teimlodd Angharad fel ei bod hi am lewygu eto. Caeodd ei llygaid. Anadlodd yn ddofn. Cyfrodd i dri ac agorodd ei llygaid eto. Roedd hi nawr yn sefyll wrth ymyl Aled. Roedd hi’n sefyll digon agos iddo fel ei bod hi’n gallu arogli’r powdr dillad ar ei wisg ysgol. Yn sydyn, sylwodd Angharad ei bod hi wedi bod yn syllu ar Aled ychydig yn rhy hir ac aeth ei gruddiau yn gochach fyth. Bron mor goch â bochau Anni gyda’r holl blusher roedd hi’n ei wisgo. Diolchodd Angharad wrth Aled yn dawel ac eisteddodd pawb yn ôl yn eu cadeiriau.

Roedd pawb yn aros yn eiddgar i Mr Arwyn gyhoeddi bod yr holl beth yn jôc. Yn aros iddo gyhoeddi bod pen tost y tri ohonynt yn gyd-ddigwyddiad a bod dim modd i’r tri ohonynt ddatblygu pwerau am hanner awr wedi tri y diwrnod hwnnw. Ond ni chlywodd yr un ohonynt ddiweddglo’r jôc honno.

Cliriodd Mr Arwyn ei wddf cyn dweud, “os oes modd i chi sôn eich bod chi am lewygu cyn llewygu o nawr ymlaen byddai hynny’n wych,” edrychodd Mr Arwyn yn syth tuag at Angharad. Cyn i’r un ohonynt lewygu eto, dywedodd yn frysiog, “ond dyw derbyn pwerau ddim mor wael â beth mae’n gallu swnio fel.”

Edrychodd Angharad, Aled ac Anni ar ei gilydd mewn penbleth. Iddyn nhw roedd prifathro Ysgol Tir Na Nog wedi mynd yn orffwyll. PWERAU? Nid oedd yr un ohonynt yn gwybod sut i ymateb. PWERAU?!

Dim ond cymeriadau mewn llyfrau comics a ffilmiau oedd gyda phwerau. Cymeriadau fel Spider-Man a’r Invisible Woman – dim tri disgybl ym mlwyddyn wyth yn Ysgol Tir Na Nog!

“Pa mor dda ydych chi’n nabod eich gilydd?” holodd Mr Arwyn gan godi ei ael dde.

Edrychodd Angharad, Aled ac Anni unwaith eto ar ei gilydd. Nid oedd yr un ohonynt yn cylchdroi yn yr un grŵp o ffrindiau nac ychwaith yn rhannu llawer o wersi. Roedd Angharad ac Aled yn rhannu gwersi coginio ond gan amlaf byddai Aled yn chwarae o gwmpas gyda’i ffrindiau, Osian a Noa, yng nghefn y dosbarth. Roedd Angharad ac Anni yn rhannu gwersi ymarfer corff, ond doedd Angharad ddim yn mwynhau rhedeg ar ôl peli, felly byddai’n trio cuddio yn yr ystafelloedd newid cyn hired â phosib. Roedd Aled ac Anni yn rhannu gwersi mathemateg, ond gan amlaf byddai Anni yn osgoi’r gwersi hynny trwy guddio tu ôl y cabannau ar ochr arall safle’r ysgol.

Felly, yn syml, doedd yr un ohonynt yn nabod ei gilydd yn dda o gwbl.

Cododd Mr Arwyn ei ael dde hyd yn oed yn uwch i ddangos ei fod yn aros am ateb. Pesychodd Angharad cyn dweud, “braidd o gwbl.”

Nodiodd Aled ac Anni eu pennau yn gytûn â’u llygaid wedi’u glynu ar y llawr.

“Wel, bydd hynny’n newid mewn da bryd. Bob bore Mercher o nawr ymlaen, yn lle mynd i gofrestru, byddwch chi’n ymarfer gyda fi yn y gampfa goll. Mae’n bwysig eich bod chi’n meddu ar eich pwerau’n gywir,” adroddodd Mr Arwyn yn eglur. Roedd yn amlwg fod Mr Arwyn wedi ymarfer y brawddegau hynny droeon o’r blaen, a mwy na thebyg o flaen y drych hefyd.

“Ond sut ydych chi’n gwybod byddwn ni’n datblygu pwerau heddiw? A pha bwerau’n union?!” holodd Aled yn sydyn. Roedd e’n dal yn methu credu unrhyw beth a oedd yn dod allan o geg y prifathro hurt.

“Oherwydd pwy yw eich rhieni ac, yn anffodus, does dim modd gwybod pa bŵer bydd gennych tan iddi fwrw hanner awr wedi tri heddiw,” oedd ateb syml Mr Arwyn.

Distawodd y tri. Un peth a oedd yn clymu’r tri disgybl gyda’i gilydd, ar wahân i’r ffaith bod enwau’r tri’n dechrau gydag A, oedd nad oedd y tri ohonynt wedi gweld eu rhieni am sawl blwyddyn bellach. Yn blentyn cafodd Angharad ei mabwysiadu gan yr unig bobl a oedd yn haeddu cael eu cyfeirio atynt fel ei mam a thad. Ers yn ifanc, yr unig berson ym mywyd Aled oedd ei lystad. Roedd Mam a Dad biolegol Aled wedi hen ddiflannu a doedd neb yn gwybod ble oedden nhw. Anni oedd yr unig un a oedd wedi cael y cyfle i ddod i nabod ei rhieni. Ond un diwrnod ym mlwyddyn tri, daeth mam-gu a thad-cu Anni i’w chasglu o’r ysgol yn lle ei rhieni. O’r diwrnod hynny ymlaen ni welodd Anni ei rhieni ac, yn lle, roedd hi’n byw gyda’i mam-gu a thad-cu.

“Roedd gan eich rhieni chi bwerau hefyd. Roedd y chwech ohonynt hefyd wedi mynd i’r ysgol yma. O’n i hefyd yn brifathro ar y chwech ohonynt a fi dysgodd bob un ohonynt i feddu ar eu pwerau,” eglurodd Mr Arwyn.

“Pam ti? Beth sydd mor arbennig amdanoch chi?” holodd Anni heb feddwl dwywaith. Yr eiliad honno addawodd Anni wrth ei hun y byddai byth yn siarad heb feddwl eto, yn enwedig wrth y prifathro.

Yn lle ateb fel person arferol, cododd Mr Arwyn ei law a hedfanodd hen lyfr gyda chlawr caled, a oedd wedi gweld dyddiau gwell, trwy’r awyr gan lanio’n dwt yn llaw’r prifathro. Am y canfed tro’r diwrnod hwnnw, edrychodd Angharad, Aled ac Anni yn gegrwth ar y prifathro. Roedd Mr Arwyn, prifathro Ysgol Tir Na Nog, gyda phwerau! A phwerau cŵl hefyd!

“Dyna ddigon am nawr. Ewch i’ch gwersi a wela’i chi yn y gampfa goll yfory am 8:45 yn union. Paid bod yn hwyr tro yma Anni,” rhybuddiodd Mr Arwyn.

“A chofiwch. Dim gair wrth neb am hyn. Ddim yn yr ysgol nac ychwaith adref. Deall?” Cwestiwn rhethregol oedd rhan olaf y frawddeg gan Mr Arwyn, ond nodiodd y tri eu pennau rhag ofn. Roedd y tri ohonynt yn deall ac yn barod i wrando a dilyn gorchmynion y prifathro.

Yn sydyn, canodd gloch yr ysgol a chwifiodd y prifathro arnynt i adael yr ystafell. Brysiodd y tri allan o’r ystafell gan adael Mr Arwyn i’w lyfrau a’i luniau. Ymunodd y tri â’r llif o ddisgyblion yn y coridor, yn barod at ddiwrnod hir o wersi. Cerddodd Angharad, Aled ac Anni i’w gwersi amrywiol gan wahanu ar waelod y grisiau heb yngan yr un gair.

Trwy gydol y diwrnod roedd y tri ohonynt methu canolbwyntio yn eu gwersi. Roedd Angharad yn cael trafferth i ganolbwyntio yn ei hoff wers hyd yn oed, sef gwyddoniaeth gyda’r athrawes newydd Miss Daniels. Roedd Anni yn flêr yn y wers gelf, ei hoff wers hi, a chollodd Aled y bêl sawl gwaith wrth chwarae rygbi yn ystod amser egwyl. Roedd cymaint o gwestiynau’n gwibio o gwmpas pennau’r tri ohonynt, fel beth oedd y gwir tu ôl diflaniad eu rhieni? Beth ddigwyddodd iddyn nhw? Pa bwerau yn union roeddent am eu datblygu am hanner awr wedi tri? Pwy arall oedd yn gwybod am eu cyfrinach? Beth yn union oedd pwerau Mr Arwyn? Ac ar ben hynny i gyd, roedd y tri ohonynt angen trio canolbwyntio yn eu gwersi er y curo tu ôl i’w llygaid.

Erbyn amser cinio roedd Aled yn llwgu. Stwffiodd ei hun ym mlaen y ciw gydag Osian a Noa gan wylltio rhai o’r disgyblion ym mlwyddyn saith. Trodd Aled yn ôl atynt i ymddiheuro gan ddangos ei docyn amser cinio cynnar. Roedd pob disgybl a oedd yn rhan o garfan tîm rygbi’r ysgol yn cael sgipio’r ciw ar ddiwrnodau ymarfer, sef bob diwrnod. Ond doedd hynny ddim yn golygu bod y disgyblion eraill yn llai annoyed gyda’r holl wthio i mewn i’r ciw.

Roedd Aled wedi penderfynu yn union beth roedd e am ei fwyta ers trydydd gwers y dydd, sef sleis o bizza, dogn o sglodion, a sgwâr bach o brownie. Gwir, doedd y dewisiadau ddim yn iachus iawn ond doedd Aled ddim yn poeni taten. Doedd dim ffordd i’w lystad ddarganfod ei arferion amser cinio gwael. O bell, sylwodd Aled ar Angharad yn eistedd o gwmpas bwrdd gyda’i thair ffrind. Roedd ei gwallt hir yn cwympo dros un o’i hysgwyddau a’n cuddio rhan o’i llygaid dde. Roedd Aled wedi hoffi Angharad o bell ers y trydydd tro iddo ddod ar ei thraws. Y tro cyntaf oedd yn ystod y gwasanaeth boreol cyntaf ym mlwyddyn saith. Angharad oedd yr unig un i godi ei llaw yn ystod y gwasanaeth i ateb cwestiwn.

Yr eildro oedd pythefnos yn ddiweddarach ar gae’r ysgol. Roedd hi’n ddiwrnod braf a hedfanodd bêl draw at gyfeiriad Angharad a’i ffrindiau. Sylwodd Angharad ar y bêl a oedd yn prysur hedfan draw ati hi a’i ffrindiau a thynnodd bob un ohonynt i’r llawr gan osgoi’r bêl. Roedd hi’n ffordd anarferol iawn o osgoi’r peli ar gae’r ysgol, ond roedd Aled yn hoffi ei hunigrwydd.

Y trydydd tro oedd mis yn ddiweddarach pan gerddodd Angharad heibio Aled yn y coridor, gyda’i ffrindiau bob ochr iddi a’n chwerthin yn braf. Yr hapusrwydd a fachodd Aled. Heb os, roedd Aled wedi hoffi Angharad ers y tro cyntaf iddo’i gweld, ers i’w chlyfrwch disgleirio yn ystod y gwasanaeth cyntaf ym mlwyddyn saith. Ond ei hapusrwydd, a’r crychau o gwmpas ei llygaid pan fyddai Angharad yn gwenu, oedd y gwir reswm iddo ddechrau ei charu.

Roedd rhywbeth amdani a oedd yn atynnu Aled ati. Ond roedd Aled yn gwybod mai breuddwydion yn unig oedd ei obeithion y byddai e rhyw ddydd mewn perthynas ag Angharad. Y byddai e rhyw ddydd yn gallu galw Angharad yn ei gariad. Ond, roedd hi’n rhy glyfar iddo, a dyna’r diwedd arni.

Cododd Angharad ei phen gan sylwi ar Aled yn edrych arni o giw bwyd twym y ffreutur. Edrychodd Aled i ffwrdd yn frysiog a gwenodd Angharad yn swil. Dau fwrdd i ffwrdd, sylwodd Anni ar wên Angharad.

RHANNWCH