Cartref digidol diwylliant Cymru.

Disgyblion A: Pennod 1 – Pobl Arferol

Deffrodd Angharad mewn penbleth.

Roedd ei chloc larwm yn canu’n groch ar y ddesg wrth ymyl ei gwely, ond rhywsut doedd Angharad ddim yn ei gwely. Yn lle, roedd Angharad wedi deffro ar lawr ei hystafell wely.

Cododd o’r llawr i ddiffodd y larwm gan fwytho’i phen a oedd yn gwingo gyda phob cam. Sut roedd hi wedi diweddu ar lawr ei hystafell wely?

A pham nad oedd hi wedi sylwi cyn 8:20 y bore hwnnw ei bod hi’n cysgu ar lawr anghyfforddus ei hystafell wely?
Nid oedd gan Angharad yr atebion i’r cwestiynau, ond doedd hi ddim wir yn poeni am hynny oherwydd heddiw oedd ei diwrnod cyntaf ym mlwyddyn wyth yn Ysgol Tir Na Nog.

Brysiodd Angharad o gwmpas y tŷ. Un o godymau Angharad oedd ei hoffter o gwsg. Roedd yn well gan Angharad frysio o gwmpas y tŷ am ugain munud na deffro ychydig yn gynt a chymryd ei hamser i baratoi at ddiwrnod yn yr ysgol. O ganlyniad i’r holl frysio, fel arfer byddai Angharad yn anghofio ei llyfrau, ei chit ymarfer corff, a’i chynhwysion ar gyfer y wers goginio. Ond roedd un peth o blaid blerwch Angharad. Roedd hi’n byw rownd y gornel o’r ysgol ac felly pe byddai Angharad yn anghofio unrhyw beth, byddai’n rhuthro yn ôl i’r tŷ i’w gasglu yn ystod amser egwyl.

Wrth i Angharad ruthro o amgylch y tŷ y bore hwnnw, cofiodd ei llyfrau a oedd ar y silff ar ben ei desg, cofiodd ei chit ymarfer corff a oedd wedi’i stwffio yng nghefn ei chwpwrdd dillad, a chofiodd ei chynhwysion a oedd mewn sawl cwpwrdd gwahanol yn y gegin. Er holl ymgeision Angharad i gofio’i llyfrau, ei chit ymarfer corff, a’i chynhwysion roedd hi’n gwybod ym mêr ei hesgyrn ei bod hi wedi anghofio rhywbeth. Ond, roedd yr ugain munud wedi hedfan heibio ac roedd angen iddi adael y tŷ neu fyddai’n hwyr ar ei diwrnod cyntaf yn ôl yn yr ysgol ar ôl gwyliau’r haf.

Y bore hwnnw, er y cur pen, rhedodd Angharad i’r ysgol. Roedd ei horiawr yn dangos 8:42 ac roedd cofrestru’n dechrau am 8:45! Nid oedd Angharad wedi colli’r un diwrnod o ysgol o’r blaen, nac ychwaith wedi bod yn hwyr i gofrestru, ac nid oedd Angharad yn bwriadu torri’r record honno heddiw felly rhedodd nerth ei thraed ar hyd y palmant anwastad tuag at yr ysgol.

Cyrhaeddodd Angharad yr ystafell gofrestru, blwyddyn wyth Thawan dau, yr union eiliad roedd gloch yr ysgol yn canu. Eisteddodd yn flinedig ar gadair wrth ymyl ei ffrind gorau, Sara. Gwenodd y ddwy ar ei gilydd cyn mynd ati i drafod holl helyntion y gwyliau haf. Siaradodd y ddwy gyda’i gilydd fel nad oeddent wedi siarad dros y ffôn bob diwrnod ers i’r gwyliau haf ddechrau. Wrth i Sara adrodd stori am ennill sawl gêm ar Fortnite, gan guro un o’r goreuon ar y gêm, sylwodd Angharad fod ei phen yn brifo o hyd. Gobeithiodd yn dawel wrth ei hun y bydd y cur pen yn cilio’n fuan neu bydd dim modd iddi ganolbwyntio yn y wers nesaf. Ei hoff wers. Gwyddoniaeth.

****

Yn wahanol i Angharad, deffrodd Aled yn glyd yn ei wely o dan flanced, duvet a charthen. Ond yn debyg i Angharad, roedd gan Aled gur pen a oedd yn atseinio â phob BLIP-BLIP gan ei gloc larwm.

Diffoddodd ei gloc larwm heb feddwl dwywaith a rholiodd allan o’i wely yn gysglyd. Golchodd ei wyneb yn yr ymgais i waredu ar ei gur pen, ond heb unrhyw lwyddiant. Parhaodd ei ben i guro gyda rhythm ei galon wrth iddo fwyta’i frecwast, brwsio’i ddannedd, a gwisgo’i wisg ysgol. Roedd hyd yn oed mwytho Jini y ci heb helpu ei ben tost. Llyncodd tabled i geisio lleddfu’r poen yn ei ben a gadawodd y tŷ gyda’i fag ysgol dros un ysgwydd.

Safodd Aled ar ben ei hun ar gornel ei stryd yn aros am ei ffrindiau, Osian a Noa. O’r pellter gwelodd Aled y bws ysgol yn nesáu ato. Edrychodd o gwmpas am ei ffrindiau yn y gobaith nad oedd y ddau ohonynt wedi newid eu meddyliau ac wedi holi eu mamau am lifft i’r ysgol. Yn sydyn, clywodd anadl trwm Osian a Noa a gwelodd y ddau ohonynt yn carlamu rownd y gornel ato. Cyfarchodd Aled ag Osian a Noa trwy ysgwyd dwylo mewn ffordd unigryw. Roedd e’n gymysgedd o fist pumps, taro ysgwydd, bwrw sodlau eu traed ac ysgwyd dwylo fel person arferol.

Camodd y tri ohonynt ar y bws gan nodio’u pennau ar y gyrrwr cyn cymryd eu seddu arferol tua chefn y bws. Er gobeithion Aled, roedd ei gur pen yno o hyd. Roedd y poen wedi’i leoli tu ôl i’w lygaid, a phob tro byddai’n cau ei lygaid roedd y curo ond yn gwaethygu.

Ochneidiodd Aled. Roedd e’n methu credu ei fod am ddechrau ei ddiwrnod cyntaf ym mlwyddyn wyth gyda chur pen.

****

Y cur pen a oedd yn gyfrifol dros ddeffro Anni. Syllodd Anni ar y cloc ar y wal gyferbyn â’i gwely i weld ei bod hi’n 7:10. Roedd ganddi awr go-lew nes roedd angen iddi adael ei thŷ i fynd i’r ysgol. O leiaf roedd ganddi hen ddigon o amser i roi ei cholur ymlaen. Yn ystod yr haf rhwng blwyddyn saith a blwyddyn wyth roedd Anni wedi arbrofi gyda cholur. Ar ôl chwe wythnos o ymarfer roedd hi bellach yn gwybod faint o blusher oedd ei angen ar ei gruddiau heb ei throi i edrych fel clown.

Ar ôl treulio hanner awr ar ei cholur, gwenodd Anni yn hapus ar ei hadlewyrchiad. Roedd ei llygaid brown yn edrych yn anferthol oherwydd y masgara ar ei hamrannau. Clymodd mwclis o gwmpas ei gwddw a diflannodd y wên ar ei hwyneb am ennyd. Mwclis gan ei mam oedd y galon fechan o gwmpas ei gwddw. Rhywun roedd Anni heb ei gweld ers blynyddoedd. Ysgydwodd ei phen gan waredu â’r teimlad llwm. Newidiodd yn gyflym gan rolio’i sgert ychydig yn uwch na’i phengliniau, er ei bod yn ymwybodol y byddai’n derbyn sawl stŵr am wneud.

Ar ei ffordd allan o’r tŷ, cymerodd afal allan o’r bowlen ffrwythau a bwytodd yr afal wrth gerdded. Erbyn iddi gwrdd â’i ffrindiau ar bwys y bont roedd Anni wedi gorffen yr afal ac yn cnoi gwm yn lle.

Cerddodd y criw o chwech dros y bont ac i lawr at yr ysgol gan sgwrsio’n uchel am hanesion yr haf. Dechreuodd Beca sôn am y bachgen roedd hi wedi’i gwrdd ar ei gwyliau’n Ffrainc. Byddai Anni wedi ymuno yn y sgwrsio pe nad oedd ei phen yn brifo o hyd. Roedd y curo yn ei phen yn ei gwneud hi’n anodd canolbwyntio ar unrhyw beth, gan gynnwys parablu Beca.

Croesodd y criw drothwy’r ysgol wrth i gloch yr ysgol ganu. Gweiddodd Mr Osborne, yr athro Saesneg, arnynt i frysio i’w dosbarthiadau cofrestru. Chwarddodd y merched gan wylltio’r athro hyd yn oed yn fwy.

Erbyn i Anni gyrraedd ei dosbarth cofrestru, blwyddyn wyth Teifi un, roedd yr athrawes bron â gorffen y gofrestr.

“Hwyr ar dy ddiwrnod cyntaf, Anni,” oedd cyfarchiad Miss Pugh wrthi.

“Yma, Miss” ymatebodd Anni gan ennyn piffian chwerthin gan rai o’i chyd-ddisgyblion. Gwenodd Noa ar Anni a chododd ei fawd arni o ddiogelwch cysgod ei ddesg. Carlamodd calon Anni. Erbyn diwedd blwyddyn saith, roedd Anni wedi dechrau hoffi Noa yn fwy na ffrind yn unig. Ond ni chafodd Anni neu Noa y cyfle i weld ei gilydd dros chwe wythnos yr haf.

“Anni Williams, dyma dy rybudd cyntaf a’r rhybudd olaf. Y tro nesa’ y byddi di’n ateb nôl fel ’na byddi di’n mynd yn syth at y prifathro. Deall?”

Nodiodd Anni ei phen ar Miss Pugh cyn rholio’i llygaid ar Lisa a oedd yn eistedd wrth ei hymyl.

“Fel mae’n digwydd, mae’r prifathro eisiau dy weld ta beth. Cyhoeddiad cyntaf y bore yw ymholiad y prifathro i ti fynd i’w weld cyn gynted â phosib. Cofia da fag!” dywedodd Miss Pugh yn ddiamynedd wrthi.

Cododd Anni yn nerfus o’i sedd. Pam roedd y prifathro eisiau ei gweld ar ei diwrnod cyntaf? Roedd cant a mil o resymau’n gwibio trwy ei meddwl ond nid oedd yr un ohonynt yn gwneud synnwyr iddi. Pam hi? Pam nawr?

Oedd, roedd hi’n hwyr ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn, yn debyg i’w hymddygiad trwy gydol blwyddyn saith, ond doedd hynny ddim yn golygu ymweliad i ystafell y prifathro siŵr?

Gadawodd Anni y dosbarth cofrestru a cherddodd i lawr y coridor hir tuag at ystafell y prifathro. Wrth iddi gerdded i lawr y coridor wedi’i addurno gyda gweithiau amrywiol ei chyd-ddisgyblion, agorwyd drysau dosbarthiadau cofrestru eraill. O un dosbarth cerddodd merch a oedd yn edrych fel ei bod hi newydd ddeffro, ac o’r dosbarth arall cerddodd bachgen roedd Anni hanner yn ei adnabod am ei fod yn rhan o’r tîm rygbi. Roedd Ysgol Tir Na Nog yn ysgol fawr gyda dros gant a hanner o ddisgyblion ym mhob blwyddyn, felly roedd Anni’n cael trafferth cofio enwau pawb, yn enwedig y rhai nad oedd yn rhan o’r tîm hoci.

Wrth i’r tri barhau i gerdded a nesáu at ystafell y prifathro, sylwodd y tri ohonynt eu bod yn mynd i’r un lle.

O fewn trideg cam roedd Anni, Angharad ac Aled yn sefyll o flaen drws ystafell y prifathro. Edrychodd y tri ohonynt ar ei gilydd. Roedd wynebau’r tri yn dangos yn glir nad oedd yr un ohonynt yn gwybod pam roedd y prifathro wedi eu galw i’w weld.

“DEWCH I MEWN!” bloeddiodd y prifathro o du ôl y drws.

Trodd Anni ddolen y drws gyda’i llaw dde chwyslyd gan gamu i mewn i’r ystafell fechan.

Dilynodd Angharad ac Aled yn nerfus.

****

“Eisteddwch,” dwedodd y prifathro wrthynt gan droi i’w hwynebu. Gwichiodd y gadair wrth iddo droi o gwmpas tu ôl i’w ddesg. Roedd Mr Arwyn, prifathro Ysgol Tir Na Nog, yn ddyn canol oed hanner golygus. Roedd ganddo lygaid glas sgleiniog, gwên gynnes, a llond pen o wallt wedi’i fritho’n wyn. Ond roedd e hefyd yn cnoi ei ewinedd mor fyr nes ei fod yn anodd eu gweld. Roedd e’n saff i ddweud bod bysedd Mr Arwyn yn edrych yn od dros ben gyda’r diffyg ewinedd. Bron fel dwylo estronwr.

Ond yn bwysicach na hynny, roedd Mr Arwyn yn brifathro galluog a phwyllog. Byddai ond yn siarad mewn gwasanaethau mawr, cyngherddau, neu ddigwyddiadau mawreddog. Roedd sawl un yn credu ei fod yn cuddio rhywbeth am ei fod mor dawel o ddydd i ddydd, ond doedd neb yn gwybod beth oedd y ‘peth’ hynny.

Eisteddodd Angharad, Aled ac Anni yn y tair sedd gyferbyn â desg Mr Arwyn gan lyncu’r poer a oedd wedi cronni yn eu cegau gyda chrin trafferth. Roedd Angharad wedi dechrau chwarae gydag edafedd ei siwmper ysgol, roedd Aled wedi dechrau ysgwyd ei goesau ac roedd Anni wedi dechrau chwarae gyda’i gwallt hir.

Roedd ystafell prifathro Ysgol Tir Na Nog yn gymysgedd o luniau o’r ysgol a’r disgyblion ar hyd y blynyddoedd mewn fframiau pren, a silffoedd llawn llyfrau o bob lliw a siâp. Roedd popeth yn yr ystafell wedi’u gorchuddio gyda haen denau o ddwst, gan gynnwys y cadeiriau roedd Angharad, Aled ac Anni newydd eistedd arnynt. Syllodd Mr Arwyn ar y tri ohonynt yn ymwybodol o’u nerfusrwydd.

“Sut mae’ch pennau erbyn hyn?” oedd cwestiwn cyntaf Mr Arwyn.

Un ar ôl y llall, agorwyd cegau Angharad, Aled ac Anni mewn sioc. Sut oedd eu prifathro yn gwybod bod ganddyn nhw gur pen? Nid oedd yr un ohonynt wedi sôn am eu cur pen wrth neb.

“Peidiwch â phoeni, byddwch yn hapus i glywed bydd y curo tu ôl eich llygaid yn cilio erbyn diwedd y dydd.”

Gollyngodd Angharad, Aled ac Anni anadl o ryddhad. Roedd y tri ohonynt wedi cael llond bol o’r poen tu ôl eu llygaid. Doedd yr un ohonynt wedi cael cur pen cynddrwg o’r blaen.

“Ond, dyma rybudd ynghylch beth fydd yn dod ar ôl i’r curo gilio,” roedd llais Mr Arwyn wedi gostwng sawl lefel a theimlodd y tri disgybl gostyngiad yn nhymheredd yr ystafell hefyd. Lapiodd Anni ei chardigan yn dynnach o’i chwmpas.

Teimlodd Angharad ei bol yn troi. Diflannodd y wên ar wyneb Aled. Dechreuodd dwylo Anni chwysu hyd yn oed yn fwy. Roedd ei sgert wedi dechrau gwlychu am ei bod yn rhwbio’i dwylo arni gymaint.

“Am hanner awr wedi tri heddiw, ar y trydydd o Fedi dwy fil a thrideg tri, bydd y tri ohonoch yn derbyn pŵer.”

Roedd llygaid Mr Arwyn wedi stopio sgleinio ac roedd ei lais yn hollol ddifrifol.
Cyn i Angharad agor ei cheg i ymateb trodd ei byd yn ddu.

RHANNWCH