Gair cyflym o ddiolch ar ddiwedd blwyddyn brysur.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn gyffrous arall ym myd AM. Blwyddyn lle datblygodd ein gwaith a’n partneriaethau i gyfeiriadau newydd a lle y dechreuwyd o ddifrif ar y gwaith o edrych ar sut gall y cyfrwng digidol helpu creu newid ystyrlon i sicrhau bod ein diwylliant yn datblygu yn fwy cymunedol, cynhwysol a hygyrch. Bydd sawl datblygiad cyffrous yn y maes yma yn ystod 2024.
Ond ar ddiwedd blwyddyn hoffem ddiolch o galon i’r holl sianelau a phartneriaid sydd wedi parhau i ddefnyddio AM fel platfform, gan sicrhau nid yn unig gyfoeth cynyddol y cynnwys, ond hefyd dwf parhaol yn yr ymgysylltu gydag AM. Heb y 300+ o sianelau, does dim AM ac mae nifer y sianelau newydd eto eleni yn dysteb i sut mae’r platfform wedi sefydlu ei hun yn gyflym ym mywyd diwylliannol Cymru.
Rydym wedi parhau i ddatblygu eleni ac i gyflwyno nodweddion, sydd nid yn unig yn hyrwyddo cynnwys ond hefyd yn gyfle i hyrwyddo gweithgaredd a mynegiant wyneb-yn-wyneb – cyfleoedd sydd yn prinhau wrth i’n sector gylchgronau a chyfryngau barhau i grebachu. Mae llwyddiant nodweddion fel DEWIS, Fideos Cerddoriaeth a Beth Sy’n Digwydd yn galonogol yn ogystal â nodweddion sydd â bwriad mwy penodol megis Gwasg y Mis a PRINT. Mae’r nodwedd Cymunedau hefyd yn adlewyrchiad o bwysigrwydd canolog gweithgaredd cymunedol i ddiwylliant Cymru. Croesawn unrhyw syniadau am nodweddion newydd.
Hoffem hefyd ddiolch i’n Partneriaid Strategol newydd. Mae eu cyfraniad nid yn unig yn cyfoethogi cynnwys AM, ond hefyd yn ein cynorthwyo i sicrhau bod ein gwerthoedd yn amlwg ac yn llywio cyfeiriad y platfform felly diolch i Disability Arts Cymru, Sub-Sahara Advisory Panel, Egin, WAHWN a Chlwb LGBTQ+ GISDA.
Diolch hefyd i Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaol, ac mewn datblygiad arbennig eleni, edrychwn ymlaen at ddechrau cydweithio gyda Chyngor y Celfyddydau yn 2024 fel un o’u sefydliadau portffolio fydd yn derbyn ariannu aml-flwyddyn. Hoffem ddiolch yn wylaidd hefyd i’n Cadeirydd Ffion Dafis ac aelodau’r Bwrdd am eu harweiniad a’u hamser.
Ond yn olaf diolch i bawb sydd wedi ymgysylltu, rhannu, defnyddio a mwynhau AM eto eleni. Mae cryfder cyffrous o weld twf organig mewn cymuned sydd yn rhannu a chydweithio, ac o ganlyniad yn creu rhywbeth sydd â photensial i newid pethau er gwell ac yn barhaol. Ein her (a’n braint) ni yw gweithio i sicrhau hynny – er budd i bawb.
Mae adroddiad yn ymhelaethu mwy ar 2023 AM ar gael yma.
Felly ymlaen, diolch a mwynhewch y gwyliau.