Un o fentrau Llywodraeth Cymru i hybu uchelgais ymhlith disgyblion ysgol galluocaf y wlad yw Academi Seren. Ond seren yw hon sy’n ein harwain ar gyfeiliorn – yn addysgol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd – yn ôl un addysgwr blaenllaw.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd, cefais yr anrhydedd o draddodi darlith ar ran Dyfodol yr Iaith ar Academi Seren a’r effaith andwyol y mae’n ei chael ar Gymru. I ddarllenwyr nad ydynt yn gyfarwydd â hi, Academi Seren yw’r rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ac ysbrydoli’r dysgwyr mwyaf galluog rhwng Blwyddyn 8 a 13, gyda’r nod o ehangu eu gorwelion, datblygu eu huchelgais, ac yn y pen draw eu hannog i wneud cais i brifysgolion mwyaf blaenllaw Prydain.
Ar yr olwg gyntaf, mae’n hawdd gweld hyn fel menter glodwiw, ac mae’n demtasiwn ei chefnogi heb amheuaeth. Fodd bynnag, am y rhesymau rwy’n eu hamlinellu isod, credaf fod y fenter hon yn peri pryder dwfn ac yn mynd yn groes i’r ffordd yr wyf yn deall addysg a’i swyddogaeth yn ein cymdeithas. Yn gryno, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £12 miliwn ar Academi Seren dros y pum mlynedd diwethaf, tra mae dros 40% o fyfyrwyr ifanc Cymru bellach yn dewis astudio y tu allan i Gymru, ar gost o dros hanner biliwn o bunnoedd y flwyddyn i’r wlad.
Pan sefydlwyd Academi Seren, roedd y bwriad yn un teilwng: codi dyheadau ac annog y disgyblion ôl‑16 mwyaf galluog i wneud cais i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Er mwyn gweld pa mor llwyddiannus fu’r ymdrech honno, wele, er enghraifft, y data derbyn blynyddol a gyhoeddir gan Brifysgol Caergrawnt yn yr adroddiad Undergraduate Admissions Statistics. Mae’r ystadegau Cymreig fel a ganlyn:
| Blwyddyn | Ymgeiswyr o Gymru i Brifysgol Caergrawnt | Nifer yn cael eu derbyn | Cyfradd llwyddiant |
| 2015 | 257 | 63 | 24.5% |
| 2016 | 276 | 57 | 20.7% |
| 2017 | 297 | 60 | 20.2% |
| 2018 | 308 | 64 | 20.8% |
| 2019 | 292 | 76 | 26.0% |
| 2020 | 330 | 82 | 24.8% |
| 2021 | 433 | 64 | 14.8% |
| 2022 | 419 | 53 | 12.6% |
| 2023 | 320 | 46 | 14.4% |
| 2024 | 332 | 49 | 14.8% |
Yn sicr, mae nifer yr ymgeiswyr o Gymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd, ond yn eironig, mae’r nifer sy’n cael eu derbyn wedi gostwng. O ganlyniad, mae’r gyfradd llwyddiant wedi dirywio’n sylweddol. A ellir, felly, gyfiawnhau mewn gwirionedd y miliynau o bunnoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi’u buddsoddi yn yr Academi?
Fel gwrthddadl, mae’n debyg y byddai Academi Seren yn honni ei bod bellach wedi esblygu a’i bod yn gweithio gyda disgyblion o ddeuddeg oed ymlaen ac yn annog pobl ifanc i wneud cais i brifysgolion y Russell Group, sef y sefydliadau addysg uwch a ystyrir orau yn y Deyrnas Unedig am eu safon academaidd uchel. Unwaith eto, mae hyn yn swnio’n uchelgeisiol ac yn gadarnhaol. Ond beth am brifysgolion Cymru?
Dim ond Prifysgol Caerdydd sy’n rhan o’r Russell Group, ac eto mae gan bob un o’n prifysgolion adrannau neu gyfadrannau o’u mewn sy’n arwain ar lefel genedlaethol, ac mewn sawl achos, ar lefel ryngwladol hefyd.
Roedd y ffaith hon yn greiddiol i’m cyflwyniad yn yr Eisteddfod pan ofynnais i bob un o’r wyth prifysgol yng Nghymru greu un sleid pwynt pŵer i arddangos cwrs o’u dewis a’i hyrwyddo fel maes lle maent yn rhagori ar lefel genedlaethol. Rwy’n gweithio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, a enwyd eleni gan The Times fel Prifysgol Orau Prydain (yn ôl barn myfyrwyr) am addysgu ac ansawdd dysgu. Yn anffodus, nid yw’r neges honno, sef bod prifysgolion Cymru yn cynnig cyfleoedd eithriadol ac addysg o’r radd flaenaf, yn cael ei chyfleu gan Academi Seren i bobl ifanc Cymru.
Yn hytrach na hyrwyddo balchder ac ymdeimlad o berthyn i Gymru, y neges sy’n deillio o Academi Seren, yn fy marn i, yw bod llwyddiant gwirioneddol i’w gael mewn prifysgolion y tu allan i Gymru. O ran disgyblion deuddeg oed, gofynnir i ysgolion ddewis y deg y cant gorau o’u disgyblion i fod yn rhan o’r rhaglen. O’r eiliad honno ymlaen, cânt eu trwytho yn y syniad eu bod yn ‘arbennig’, ac mai’r ffordd i wireddu eu potensial yw trwy fynd i brifysgolion y tu hwnt i Gymru. Wrth gwrs, mae’r bobl ifanc hyn yn dychwelyd i’w dosbarthiadau ac, yn anfwriadol efallai, yn trosglwyddo’r neges hon i’w cyfoedion: bod llwyddiant yn gyfystyr â gadael Cymru.
Nid syndod, felly, yw bod dros 40% o fyfyrwyr Cymru bellach yn astudio mewn prifysgolion y tu allan i Gymru, o’i gymharu â dim ond 9% yn gadael Lloegr a 5% yn gadael yr Alban. Mae’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth o ran disgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg gyda dros 60% eleni yn gadael Cymru. Yn ystod cyfnod lle mae mewnfudo i’r Deyrnas Unedig yn cael ei bortreadu’n negyddol iawn yn y cyfryngau, mae’n eironig fod Llywodraeth Cymru, trwy Academi Seren, yn gwneud yr union beth y caiff mewnfudwyr eraill eu beio amdano mor aml, sef annog mudo. Ond yn yr achos hwn, nid i Gymru mae’r mudo, ond allan ohoni.
Yn y modd hwn, mae’r llywodraeth Gymreig yn cymryd rhan mewn math o allfudo academaidd: anfon ein pobl ifanc ddisgleiriaf i ffwrdd i lwyddo mewn mannau eraill. Mae hyn yn gyfystyr â cholli cyfoeth dynol a diwylliannol, y math o gyfalaf dynol sy’n hollbwysig i adeiladu cenedl hyderus ac uchelgeisiol. Ni allaf feddwl am unrhyw wlad arall yn y byd sy’n buddsoddi miliynau o bunnoedd i anfon ei phobl ifanc mwyaf disglair i ffynnu mewn gwledydd eraill.
Ar lefel arall, mae Academi Seren hefyd yn mynd yn groes i egwyddorion addysg fodern trwy dargedu disgyblion ‘elitaidd’. Mae’r Cwricwlwm i Gymru, a gyflwynwyd yn 2022, yn pwysleisio’r syniad o ‘ddysgwyr uchelgeisiol a galluog’, lle mae gan bawb, waeth beth yw eu cefndir neu allu, yr hawl a’r cyfle i lwyddo. Ond mae Seren, yn fy marn i, yn tanseilio’r egwyddor hon trwy ganolbwyntio ar adnabod y rhai â’r doniau mwyaf ac yna cynnig cyfleoedd unigryw iddynt hwy yn unig. Mae hyn yn atgyfnerthu meddylfryd yr hen ‘un ar ddeg plws’, system labelu a gwahanu, yn hytrach na meithrin uchelgais gyffredinol ymhlith pob dysgwr.
Rwy’n wirioneddol bryderus ein bod yng Nghymru bellach yn labelu ein disgyblion mor gynnar â deuddeg oed trwy Academi Seren. Fel y mae’r academydd Helen Lewis yn ei ddadlau yn ei llyfr diweddar The Genius Myth, mae’r arfer o ddisgrifio rhai plant fel ‘dawnus’ neu ‘arbennig’ yn beryglus, ac mae’r byd addysg ehangach wedi dechrau troi ei gefn ar y dull hwn. Yn anffodus, nid yw Cymru wedi gwneud hynny eto.
Mae effaith hyn oll yn andwyol i’n sector addysg ac, yn y pen draw, i’n cenedl. Rhaid i ni ddweud ffarwél wrth y ‘Seren’ sy’n ein harwain ar gyfeiliorn ac ailfeddwl ein hagwedd at uchelgais ac addysg. Mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn pwysleisio’r angen i gynyddu’r nifer o bobl ifanc sy’n mynd i brifysgol er mwyn cryfhau eu heconomïau, tra yma yng Nghymru, ymddengys ein bod yn gwneud y gwrthwyneb.
Ac mae hynny, i mi, yn wirioneddol hurt!
Huw Griffiths