Cartref digidol diwylliant Cymru.

Diddiffiniad : Osian Evans – Artist a Cerddor, Hedydd Ioan – Artist ac Awdur

Gwybodaeth a Chyd-destun: Wrth greu’r darn roeddem yn ymwybodol ein bod eisio defnyddio ein profiadau ni fel calon y cysyniad i geisio sicrhau ei fod yn ddarn gonest a personol. Er hyn roeddem hefyd eisiau ymchwilio i mewn i unigolion ac artistiaid sydd wedi dylanwadu ar hanes y gymuned LHDT yng Nghymru. Y tri pherson a ysbrydolodd ni fwyaf oedd Angus McBean, Henry Cyril Paget a Gwen John. Roedd celf McBean a John yn ein taro ni fel delweddau anhygoel o gryf ac fe geisiom gymryd y teimlad o’r delweddau hyn i’n lluniau ni. Roedd yna gwpwl o luniau o Paget a oedd yn ysbrydoliaeth fawr i’r darn ac yn dal ein neges yn berffaith.

Delweddau + Stori fer I gyd fynd gyda’r ffilm yma : https://eisteddfod.cymru/amgen-diddiffiniad

RHANNWCH