Cartref digidol diwylliant Cymru.

Desg Lydan – Geraint Roberts

Llenyddiaeth

Dyddiad Cyhoeddi Mai 2020 – ALLAN NAWR YN BOETH O’R WASG!

Rhif ISBN: 9781911584346

Casgliad cyntaf o gerddi Geraint Roberts, y bardd o Gwmffrwd, Caerfyrddin, sy’n enw cyfarwydd fel enillydd llu o wobrau barddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chadeiriau mewn eisteddfodau lleol ar draws Cymru.

Gair am yr awdur : Ganwyd Geraint Roberts yn Rhydgaled, ger Aberystwyth, ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghwmffrwd, Caerfyrddin. Bu’n dysgu mewn sawl ysgol cyn dod yn bennaeth Ysgol y Strade, Llanelli. Ef yw un o syflaenwyr Ysgol Farddol Caerfyrddin – gyda Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones. Desg Lydan yw ei gyfrol gyntaf o gerddi.

RHANNWCH