Yr hyn sy‘n mynd â’m bryd yw chwilota am gyseiniant, chwilio am geudodau, mannau acwstig bach ac arwynebau sy’n chwyddo sain fel pe baent yn fwyd, dod o hyd i ac adeiladu cynwysyddion, pantiau, sfferau tyllog ac ogofâu. Rwy‘n gweithio gydag offerynnau chwyth fel ffliwtau, gwrthrychau taro, gwrthrychau bwaog a thapiau casét. Mae‘r casetiau fel arfer yn dod o fy nghasgliad fy hun, wedi’u cronni rhwng y blynyddoedd 1971 i ganol y 1980au, wedi‘u chwarae‘n ôl drwy chwaraewyr casét rhad wedi ei cysylltu gyda dargludiad esgyrn ac uchelseinyddion dirgryniad. Mae’r uchelseiynyddion bychain hyn yn caniatáu i mi ddefnyddio deunyddiau a gwrthrychau o wahanol fathau – papur, caniau tun, gwifrau drwm, bocsys cardbord neu fy nannedd fy hun – i gyseinio ac ymhelaethu beth bynnag sydd ar y casét. Mae gan yr holl ddeunyddiau hyn, gan gynnwys y recordiau casét eu hunain, gysylltiad personol gyda mi. Mae eu hansawdd lo-fi yn fwriadol, gan ddehongli ar ostyngeiddrwydd deunydd penodol fel ag y maent, y dadwneud a dadoll arteffactau, oll yn arwyddocaol ar gyfer agwedd fyrfyfyriol ar fyw.
Gyda thair albwm ar ddeg yn rhychwantu hanner canrif, cawn ein swyno gan fyrfyfyr unawdol un o brif gerddorion y wlad.