Cynhaliwyd ail sesiwn Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim ar y 14eg o Hydref pan gyflwynodd yr awdur David Greenslade ei brofiadau o bererindod Fwdhaidd, byw a theithio ymhlith y diaspora Cymreig yng Ngogledd America ac yn nawr byw ar y stryd lle ganwyd ef tra hefyd yn byw dramor. Soniodd David am ganfyddiadau am Gymru o bell i ffwrdd a’r uchel ac isel bwyntiau ail-brofi Cymru fel taith o ddychwelyd tragwyddol.
Comisiynwyd Pererin Wyf gan y prosiect Cysylltiadau Hynafol a arweinir gan Gyngor Sir Penfro gyda’r partneriaid Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford. Ariennir y gwaith gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.