Wrth bori a chwilota, tipyn o syndod oedd gweld cynifer o’n beirdd ni sydd wedi sgwennu am eu tadau, neu am fod yn dadau, dros y blynyddoedd. Eithriad oedd y rheini oedd heb wneud hynny. Roedd y pentwr yn fwy o lawer na’r hyn roeddwn i wedi disgwyl dod ar ei draws. Eto i gyd, efallai na ddylai hynny fod wedi peri sioc o gwbl. Tydi perthynas pawb â’i dad, neu â’i blant, yn un o elfennau mwyaf sylfaenol bywyd? Perthnasau ydi’r rhain sy’n gyffredin inni i gyd, ac eto mor unigryw i bawb.
Mi welwch fod yma gerddi i gychwyn am y profiad rhyfeddol hwnnw o ddod yn dad, ac o fod yn dad – ‘Crud’ gan Rhys Dafis sy’n agor y gyfrol ac sy’n cyfleu’r profiad newydd a rhyfeddol hwnnw i’r dim. Mi glywn ni wedyn am y modd mae’r profiad hwnnw’n rhoi uchelseinydd i dician y cloc, ac yn arwain, yn hwyr neu’n hwyrach, at y sylweddoliad y bydd yn rhaid i bob plentyn dorri’i gŵys ei hun.
Wrth i hynny ddigwydd, mae yna gerddi’n y gyfrol sy’n bwrw goleuni ar y gwahaniaethau anorfod sy’n gallu ymddangos rhwng y cenedlaethau. Tra bod ‘Arfogi’ gan Gruffudd Owen yn cyfleu hyn, mae Myrddin ap Dafydd yn ‘Grisiau’ yn gweld nad oes modd osgoi, chwaith, y tebygrwydd sydd rhyngddo yntau a’i dad gan ein hatgoffa am yr olyniaeth a’r dolenni cyswllt teuluol sy’n para’n gryf er gwaethaf bwlch y blynyddoedd.
Fedrwn ni ddim dianc chwaith rhag yr arswyd hwnnw o ddelio â cholli tad, ac ambell un â cholli plentyn, ac mae yma waith sy’n rhoi mynegiant ingol i’r profiadau hyn. Ond mae yna reswm pam mae’r cerddi hyn mor ingol, wrth gwrs – mae’r galar gan amlaf yn deillio o gariad a chynhesrwydd ac agosrwydd rhyngon ni. Ac mae’r gyfrol yn cloi’n ddyrchafol wrth i’r beirdd ddathlu’r berthynas hon, neu ganu eu teyrngedau’u hunain i’w tadau arbennig nhw, yn eu plith, John Gwilym Jones yn ‘Llais’ a Mererid Hopwood â’r englyn ‘Dad’ sy’n cloi’r gyfrol.
Rhys Iorwerth
Dad: Cerddi gan Dadau, Cerddi am Dadau gol. Rhys Iorwerth yw Llyfr y Mis, mis Mehefin, Cyngor Llyfrau Cymru.
Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol YMA.