Math llai cyfarwydd o KFC, ond yn fwy blasus yn ein barn ni. Darnau cyw iâr crensiog wedi’u gorchuddio â gwydredd gludiog, melys a sbeislyd – be sydd ddim i’w licio? Mae’n wahanol iawn i’r ffordd Americanaidd o ffrio cyw iâr, does dim angen maraneiddio’r cyw iâr am oriau, ac lot fwy o ddyfnder a egni i’r ffordd corean.
Cynhwysion
6 person
Ar gyfer y cyw iâr
1kg o gyw iâr (gall fod yn unrhyw ddarn o’r iâr, ond mae nhw angen bod yn ddarnau bach)
2 lwy fwrdd o Mirin (neu unrhyw win reis arall)
2 lwy de o Halen Mon
2 lwy de o sinsir ffres, wedi’i dorri’n fân
Startsh tatws (startsh corn os ddim – digon i orchuddio’ch cyw iâr i gyd, tua 140g)
Olew blodyn yr haul neu olew lysiau, ar gyfer ffrio’n ddwfn.
Ar gyfer y côt
6 llwy fwrdd o sos coch
5 llwy fwrdd o gochujang6 llwy fwrdd o fêl
3 llwy fwrdd o saws soi
3 llwy fwrdd o garlleg (‘di dorri’n fân)
2 lwy fwrdd o olew sesame2 lwy fwrdd o siwgr brown
Garnish
Nionyn y Gwanwyn
Hadau sesame
Chillis coch ffres
Dull
Cam 1
Rhowch eich darnau cyw iâr mewn i fowlen gymysgu fawr a’u cymysgu â’r mirin, sinsir, halen a phupur. Gorchuddiwch blât gyda’r startsh a rholiwch y darnau cyw iâr fel eu bod wedi’u gorchuddio’n iawn. Gorchuddiwch a rhowch i un ochr.
Cam 2
Paratowch eich côt drwy ychwanegu’r holl gynhwysion mewn sosban a’u cynhesu ar wres isel. Trowch yn achlysurol ac osgoi gor-gwcio.
Cam 3
Mynnwch sosban fawr arall a’i llenwi â digon o olew i’w ffrio yn ddwfn. Os oes gennych chi peiriant ffrïwr dwfn, yna gwell byth! Bydd angen i chi gynhesu’r olew cyn ychwanegu unrhyw gyw iâr. Os oes gennych chi thermomedr, dylai’r olew gyrraedd 160c. Yna, mae’n bryd ffrio’ch cyw iâr!
Cam 4
Rydyn ni’n hoffi ffrio’r darnau cyw iâr ddwywaith am y ffactor creisonllyd ecstra.
Ychwanegwch y darnau cyw iâr i fewn i’r olew yn ofalus. Wrth osod y cyw iâr i mewn byddwch yn ofalus a dechreuwch yn araf a pheidiwch â gorlenwi’r badell. Coginiwch am tua 3 neu 4 munud, nes eu bod y gôt yn euraidd. Rhowch y cyw iâr wedi’i goginio ar kitchen roll ar hambwrdd wrth i chi goginio’r gweddill.
Cam 5
Barod am rownd 2. Codwch y gwres i tua 170c.
Coginiwch y holl ddarnau cyw iâr am 3 i 4 munud arall, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn eu checio fod nhw wedi eu gwcio. Os yw’ch olew yn rhy boeth, fe allai edrych wedi’i goginio o’r tu allan, ond heb ei goginio ar y tu mewn. Rhowch nhw ar kitchen roll a’i rhoi o’r neilltu.
Cam 6
Checiwch y saws/cot, pan mae’n berwi dipyn bach tynnwch i ffwrdd o’r gwres a’i roi mewn bowlen gymysgu fawr yn barod i’w gorchuddio’r cyw iâr. Ychwanegwch y cyw iâr mewn a gorchuddiwch yn hael.
Cam 7
Ffordd gorau i syrfio hwn yw mewn powlen fawr, yng nghanol y bwrdd gyda cwrw oer.. Ysgeintiwch ychydig o nionod y gwanwyn wedi’i dorri’n fân, naddion tsili a hadau sesame i’ch blas.