Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw

Llenyddiaeth

Llenyddiaeth Cymru yn lansio “cynllun mawr ei angen”
i hyrwyddo lleisiau amrywiol yn niwylliant llenyddol cymru
Rhaglen datblygu proffesiynol newydd yn rhoi sylw i “ddiffyg cynrychiolaeth
hanesyddol” er mwyn creu diwylliant llenyddol cenedlaethol sy’n “hedfan baner dros
gymunedau amrywiol Cymru”

Heddiw, dydd Mawrth 27 Ebrill 2021, mae Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol gyda
chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth, yn lansio ei raglen datblygu proffesiynol gyntaf
erioed i awduron o liw. Yn ôl y cwmni, mae rhaglen Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o
Liw yn gam pwysig yn y daith i weddnewid diwylliant llenyddol y wlad. Y nod yw annog
ysgrifennu creadigol sy’n cynrychioli holl gymunedau Cymru, a sicrhau bod yna fuddsoddiad
mewn unigolion talentog, amrywiol a fydd yn cael eu cydnabod ledled ein gwlad a thu hwnt.

Ariennir y rhaglen gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yn rhoi
cyfleoedd datblygu i’r rheini sy’n awyddus i ysgrifennu’n broffesiynol ym maes llenyddiaeth,
drama ac ysgrifennu i’r sgrîn. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio drwy ymgynghori â chymunedau,
awduron ac ymgynghorwyr sy’n rhan o rwydweithiau helaeth Llenyddiaeth Cymru, gan fynd i’r
afael â’r rhwystrau presennol yn y sector. Bydd y rhaglen yn cefnogi 12 o awduron i ddatblygu
eu gwaith drwy gymorth ariannol a mentora, yn ogystal â thrwy ddod â’r grefft o ysgrifennu a
chyhoeddi yn fwy hygyrch drwy gyfleoedd i rwydweithio a dosbarthiadau meistr yng ngofal
arbenigwyr y diwydiant ac awduron profiadol.

Mae’r rhaglen yn cael ei lansio yng nghyd-destun diwygiadau nodedig i Gwricwlwm Cymru, ar
ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn holl argymhellion adroddiad pwysig gan yr Athro Charlotte
Williams OBE. Mae’r adroddiad hwn sy’n rhoi sylw i anghydraddoldeb hiliol yn system addysg
Cymru ac yn awgrymu ffyrdd o wella sut mae themâu a phrofiadau sy’n ymwneud â
chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu haddysgu. Daw’r lansiad hefyd yn
fuan wedi cyhoeddiad diweddar Cyngor Celfyddydau Cymru o apwyntiad Andrew Ogun yn
Asiant dros Newid, rôl newydd a grëwyd i adnabod a thynnu sylw at rwystrau sy’n atal tegwch
a chynhwysiant. Bydd yn arwain proses o newid diwylliant o fewn i Gyngor y Celfyddydau ei
hun ac yn gweithio tuag at ddylanwadu ar drawsnewid cyfleoedd ar draws y sector
celfyddydol ehangach.

Cafodd y garfan gyntaf o awduron eu dewis gan banel o bum cynrychiolydd o’r diwydiant,
dan gadeiryddiaeth yr awdur a’r academydd, Sandeep Parmar. Aelodau eraill y panel oedd:
Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, Ashok Ahir; y bardd, y berfformwraig a’r nofelydd,
Patience Agbabi; yr awdur, yr artist a’r golygydd, Sadia Pineda Hameed; a’r asiant llenyddol
Natalie Jerome.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:
“Ers cyfnod hir, mae ein diwylliant llenyddol, yn y ddwy iaith, wedi bod yn rhy unffurf, heb iddo
wir adlewyrchu’r ystod o leisiau a phrofiadau sydd yng Nghymru. Mae nifer o unigolion a
sefydliadau llawr gwlad wedi gweithio’n hynod galed i sicrhau cynnydd go iawn dros y
blynyddoedd diwethaf, ond rhaid inni wneud mwy i roi llwyfan i’r talentau amrywiol a chyffrous
sydd gennyn ni, fel y gallwn fod yn falch o ddiwylliant llenyddol bywiog sy’n hedfan baner dros
gymunedau amrywiol Cymru. Rydyn ni’n ffodus iawn i gael amrywiaeth gyfoethog o awduron
yng Nghymru, yn adrodd eu straeon eu hunain, ac mae’r diffyg cynrychiolaeth hanesyddol
yma’n newid. Bydd y rhaglen bwysig hon yn bwrw goleuni ar leisiau eithriadol sy’n cynrychioli’r
gorau o lenyddiaeth gyfoes Cymru, ac mae potensial gan bob un o’r awduron hyn i weddnewid
ein diwylliant llenyddol ar gyfer cenedlaethau i ddod.”


Meddai Sandeep Parmar, Cadeirydd y Panel Asesu ac Athro Llenyddiaeth Saesneg ym
Mhrifysgol Lerpwl:
“Mae’r rhaglen hon yn gynllun angenrheidiol i agor ein llenyddiaeth genedlaethol i leisiau
newydd, a’r rheiny’n lleisiau newydd hanfodol. Fel panelwyr, cawsom ein gwefreiddio gan
weledigaeth yr awduron hyn – gan y modd maen nhw’n dangos posibilrwydd canon arall,
llawnach inni. Mae eu llwyddiant yn profi bod gan Gymru awduron o liw hynod o dalentog,
sy’n mwy na haeddu derbyn cymorth ac, yn wir, yn haeddu cael eu dathlu. Mae cymhlethdodau
eu gwaith, a’r ffordd maen nhw’n ymdrin â iaith, diwylliant, tirwedd, treftadaeth a holl
amrywiaeth Cymru yn gwbl ysbrydoledig.


Meddai Phil George, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Os ydyn ni o ddifri dros weld Cymru decach a mwy cyfartal yna mae’n rhaid i ni wneud mwy
na thalu gwrogaeth ar lafar yn unig er mwyn gwella amrywiaeth diwylliannol. Mae’n hanfodol
bwysig ein bod ni’n agor cyfleoedd sy’n rhoi gofod i ddatblygu talent ac mae rhaglenni fel y
rhaglen hon yn rhoi llwyfan i awduron sy’n cael eu tangynrychioli i allu mynegi a datblygu eu
creadigrwydd ac i gyflwyno barddoniaeth a rhyddiaith a fydd yn cyffroi, yn herio ac yn diddanu
cynulleidfaoedd.”


A’r rheini rhwng 21 a 61 oed ac yn byw yng Nghymru, mae’r garfan gyntaf o awduron ar
wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd, ac yn cynnwys: yr athro Marvin Thompson, a enillodd
Gystadleuaeth Barddoniaeth Genedlaethol 2020 y Poetry Society, ac sy’n awyddus i ddyfnhau’i
wybodaeth am farddoniaeth Garibïaidd mewn cyd-destun Cymreig; y berfformwraig Emily
Burnett, sydd wedi ennill gwobr BAFTA ym myd teledu plant ac sy’n awyddus i ddechrau
sgriptio; a Carl Connikie, a arferai weithio fel Dadansoddwr Gwybodaeth i Heddlu Gwent ond
sy’n awyddus i greu deunydd dogfen, ar ôl cael ei ysbrydoli gan ei gyfres o gyfweliadau wedi’u
seilio ar ffotograffau o Genhedlaeth Windrush yng Nghasnewydd. Mae’r awduron wedi
ymrwymo i greu o leiaf un darn o gynnwys, neu stori, y gellir ei rannu’n gyhoeddus i gyfleu eu
profiad o’r rhaglen. Byddan nhw’n defnyddio’r flwyddyn i weithio tuag at gyflawni tair uchelgais
sy’n unigryw iddyn nhw. Mae rhai’n gobeithio cwblhau gweithiau sydd ar y gweill i’w cyhoeddi,
mae rhai’n dymuno gwella’u dealltwriaeth o’r diwydiannau llenyddol a chyhoeddi, tra bo eraill
yn gobeithio y bydd y rhaglen yn magu eu hyder er mwyn iddyn nhw allu gweld eu hunain fel
awduron yfory.

Mae cynrychiolaeth a chydraddoldeb yn flaenoriaethau strategol o bwys i Llenyddiaeth
Cymru, ac mae lansiad y rhaglen hon yn cryfhau eu hymrwymiad i gyflwyno newid gwirioneddol
o fewn y sector. Mae’r rhaglen yn elfen allweddol o’u Colofn Gweithgaredd Datblygu Awduron,
ac yn datblygu ar lwyddiant cynlluniau eraill megis: Ysgoloriaethau i Awduron; Cynlluniau
Mentora; y cynllun nawdd Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli; a Gwobr Rising
Stars Cymru.

I roi’r rhaglen ar waith, mae Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio â sefydliadau ac unigolion o’r
sector celfyddydau a llenyddiaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Complete
Works, Lucent Dreaming, y Ledbury Critics Programme, Hanes Du Cymru, Poetry Wales, S4C,
Race Council Cymru, Lumin Press a Speaking Volumes. Bydd rhagor o bartneriaid yn cael eu
cyhoeddi a’u cynnwys wrth i’r rhaglen ddatblygu drwy gydol y flwyddyn.

Dyma’r 12 awdur sydd yn rhan o’r rhaglen gyntaf:

Carl Connikie

Daniel Howell

Durre Shahwar

Emily Burnett

Hanan Issa

Jaffrin Khan

Marvin Thompson

Nia Morais

Phil Okwedy

Shara Atashi

Taz Rahman

Umulkhayr Mohamed


Cliciwch yma i ddysgu mwy am y prosiect.

RHANNWCH