Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cynrychioli Cymru 2023-24: Ceisiadau ar agor!

Llenyddiaeth

Yn ei thrydydd blwyddyn bydd y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan awduron sydd yn byw yng Nghymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc.  

Mae’r rhaglen blwyddyn o hyd yn cynnig gwobr ariannol o hyd at £3,300 i helpu’r awduron i ganolbwyntio ar eu gyrfaoedd ysgrifennu. Dros y flwyddyn, byddant yn derbyn sesiynau mentora un-i-un, sgyrsiau a gweithdai gan awduron llwyddiannus, cyfleoedd rhwydweithio ar-lein ac mewn gwyliau a llawer mwy o gyfleoedd i ddatblygu eu hysgrifennu a’u gwybodaeth o’r byd llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt. Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.   

Mae trydydd rhifyn ein rhaglen  Cynrychioli Cymru yn dilyn rhaglen agoriadol lwyddiannus wedi’i hanelu at awduron o liw. Roedd yr ail rifyn wedi’i anelu at awduron o gefndiroedd incwm isel.  

Yn 2023-24 bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc, er mwyn helpu mynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth ddigonol mewn llyfrau plant a’r cymeriadau mewn llyfrau plant a phobl ifanc.  

Rydyn ni’n teimlo’n angerddol am weithio tuag at greu sector cynrychioliadol sy’n adlewyrchu lleisiau amrywiol Cymru, ond mae angen help arnom gan bartneriaid a rhanddeiliaid i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, yn benodol awduron o gefndiroedd incwm isel,  pobl o liw, siaradwyr Cymraeg, y rhai sy’n perthyn i’r gymuned LGBTQ+, a’r rhai sy’n byw gyda salwch neu anableddau. Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau o bob cwr o Gymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig a cheisiadau o’r gorllewin, canolbarth a’r gogledd.  

 Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5.00 pm dydd Mawrth 25 Hydref 2022.

RHANNWCH