Rhaglen:
Osian Ellis: Dagrau / Lachrymae
Benjamin Britten: Suite for Harp
Osian Ellis: Clymau Cytgerdd i 2 delyn 1. Chwarae mîg. 2. Canu Penillion 3. Hel Straeon
Cyngerdd byr rhithiol yw hwn i dalu teyrnged i Osian Ellis, un o’r telynorion mwyaf a welodd Cymru erioed. Wrth curadu’r cyngerdd, rydym yn hyderus y caiff yr awen o gyfansoddi a chariad at delyn ei throsglwyddo i genhedlaeth newydd o gerddorion. Roedd Elinor Bennett yn ddisgybl i Osian Ellis yn yr Academi Gerdd yn Llundain, a hi oedd athrawes Elen Hydref yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, flynyddoedd yn ddiweddarach. Erbyn hyn mae Elen yn delynores broffesiynnol uchel iawn ei pharch yng Ngwledydd Prydain ac yn cynrychioli’r genhedlaeth newydd.
Mae’r tri darn a glywir yn y cyngerdd yn wahanol iawn i’w gilydd:
1. Osian Ellis – Dagrau / Lachrymae – cyfansoddwyd y gwaith hwn yn 2018 pan fu farw Llinos, aelod ifanc o’r teulu, o gancr. Mae’r gerdd yn mynegi galar mewn modd dwys ac angerddol. Yn ngeiriau Osian – “Rwy’n deisyf ar y delyn i fod yn ymosodol a chreulon yn y rhan gyntaf gan adlewyrchu gofid a phoen, ond clywir hefyd atgof am blentyndod rhwng ebychiadau a gwanobeithio, ond wedi’r glissando a chanu cnul y gloch, daw Emyn y Cynhebrwng (Cortege) yn y modd Dorian a’r daith i’r fforest ger Boduan. Daw y gerdd i ben gyda myfyrdod tawel a chân drist a sawl cnul, megis cloch, ar y delyn.”
Ar y diwedd, gwelir dwy linell yn y sgôr gan John Morris Jones :
“Dywed im, a gollaist tithau
Un a’th garai di?”
2. Benjamin Britten – Cyfres i’r Delyn Op 83
(i) Agorawd ii) Toccata (iii) Cân y Nos (iv) Fugue (v) Emyn (St Denio)
Cyflwynwyd y gwaith hwn i Osian Ellis ar gyfer Gŵyl Gerdd Aldeburgh yn 1969, ac mae’n un o’r darnau pwysicaf i’r delyn o’r 20fed ganrif. Yn y pum symudiad byr, mae’r cyfansoddwr yn clodfori doniau Osian ac yn rhoi her i delynorion. Mae’r symudiad olaf yn ffurf amrywiol ar yr emyn St Denio, ac yn deyrnged arbennig i Gymreictod y telynor.
3. Osian Ellis – Clymau Cytgerdd
(i) Chwarae Mîg )ii_ Canu Penillion (iii) Hel Straeon
Comisiynwyd y gwaith hwn ar gyfer cystadleuaeth yng Ngŵyl Cerdd Dant Bangor 1990 . Mae’r symudiad cyntaf a’r olaf yn hwyliog ac ysmala, a’r ail symudiad yn osodiad o ganu penillion i ddwy delyn.