Trosglwyddo’r awen o ganu’r delyn i genhedlaeth newydd yw prif nod Gŵyl Delynau Cymru 2021 (30 + 31 Mawrth), a gynhelir gan Canolfan Gerdd William Mathias.
Bydd yn gyfle i gofio tri o gewri byd y delyn a fu farw’n ddiweddar, ar gân ac ar lafar, gyda disgyblion a chyfeillion Osian Ellis yn dysgu ac yn perfformio.
Nid ydym am adael i Covid ein rhwystro rhag cadw traddodiadau yn fyw. Ynghanol y trybini, mae’r delyn a’i cherddoriaeth yn codi’r galon ac yn cyfoethogi bywydau.
Cyfarwyddwr Artistig : Elinor Bennett