Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cylch Canu – Antwn Owen-Hicks

Cymuned

Yn 2024, enillais i gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol, Pontypridd. O ganlyniad i hynny, fe ges i fy ngofyn i ymgymryd â rhai gweithgareddau fel Dysgwr y Flwyddyn yn ardal Rhondda Cynon Tâf. Penderfynais i gynnal gweithdy canu gwerin yng Nghlwb y Bont ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Felly, i adeiladu ar y sesiwn cyntaf yna, penderfynnais i ddatblygu cyfres o sesiynau canu misol, ‘Cylch Canu’, trwy grant Llais y Lle, fel cyfle i ddysgwyr Cymraeg ddatblygu eu sgiliau iaith. Roedd hefyd yn gyfle i mi ddatblygu fy nealltwriaeth o sut i gynnal gweithdai, dod o hyd i ddeunydd neu ganeuon addas, a chynyddu fy hyder fel arweinydd gweithdai, yn ogystal â gweld beth sy’n gweithio orau a beth sydd ddim.

Dechreuais i sesiynau ‘Llais y Lle’ ym mis Mehefin 2025, gan greu partneriaeth newydd gyda Clwb y Bont a Menter Iaith Rhondda Cynon Tâf. Roedd y sesiynau yn fisol, yn anffurfiol ac yn rhad ac am ddim i’r cyfranogwyr.

Roedd y sesiynau yn digwydd ar fore Sadwrn, ar y cyfan, y dydd ac amser gorau i’r rhan fwyaf o bobl. Datblygodd y sesiynau dros y misoedd canlynol, o ran y rhai oedd yn mynychu’n aml ac o ran fy hyder fy hun wrth eu cyflwyno nhw. Mae’r holl sesiynau yn hynod werth chweil a boddhaus, ond teimlais fod newid wedi digwydd yn sesiynau mis Ebrill a mis Mai eleni, gyda mwy o gysylltiad yn datblygu gyda’r grŵp ac ymdeimlad cryfach o gymuned.

Fel artist a pherfformiwr, rwyf wedi dysgu llawer wrth gwneud y prosiect hwn – sut i strwythuro gweithdai canu a sut i gefnogi dysgwyr Cymraeg – ac dwi wedi datblygu mwy o hyder yn fy nghanu fy hun ac yn fy ngwaith cyfeilio offerynnol. Heb y grant ‘Llais y Lle’, nid wyf yn credu y byddwn wedi datblygu’r sesiynau fel y gwnes, na chwrdd â phobl newydd a datblygu eu diddordeb mewn caneuon gwerin Cymraeg. O ganlyniad, rwyf wedi derbyn ceisiadau i gynnal sesiynau mewn ardaloedd eraill ac ar gyfer prosiectau eraill, sy’n cefnogi fy ngwaith fel gweithiwr creadigol llawrydd.

 

RHANNWCH