Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cyhoeddi Y Pump Annoncement

Llenyddiaeth

Cyfres newydd, y cyntaf o’i fath yn yr iaith Gymraeg, gan awduron a chyd-awduron ifanc wedi’u cyhoeddi gan Y Lolfa yn lansio 26 Gorffennaf 2021. Dyma gyfres o bum nofel onest, pwerus a diflewyn-ar-dafod gan rai o’n hawduron ifanc mwyaf blaengar – Megan Angharad Hunter, Mared Roberts, Elgan Rhys, Iestyn Tyne a Marged Elen Wiliam, gyda Manon Steffan Ros yn ysgrifennu prolog i bob nofel ac yn fentor creadigol ar y gyfres. Mae Y Pump yn brosiect uchelgeisiol, sy’n cyfuno gwaith gwreiddiol pum sgwennwr cyffrous (a phob un ond un yn sgwennu ei nofel gyntaf) gyda barn, cyngor a brwdfrydedd grŵp amrywiol o bum cyd-awdur ifanc a gafodd eu dethol trwy alwad agored cenedlaethol i ddarganfod lleisiau’r genhedlaeth nesaf o sgwennwyr Cymraeg.

 
Tim – Elgan Rhys gyda Tomos Jones

Tami – Mared Roberts gyda Ceri-Anne Gatehouse
Aniq – Marged Elen Wiliam gyda Mahum Umer
Robyn – Iestyn Tyne gyda Leo Drayton
Cat – Megan Angharad Hunter gyda Maisie Awen

Mae’r gyfres newydd gyffrous hon yn cofleidio cymhlethdodau pum ffrind ym Mlwyddyn 11 Ysgol Gyfun Llwyd – Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat. Mae’r bum nofel yn dilyn criw o ffrindiau wrth iddynt ddarganfod y pŵer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned. Gyda phob nofel tua 20,000 o eiriau yr un, mae Y Pump yn adrodd stori pob cymeriad fesul un, gyda’r naratif yn y person cyntaf, a hanesion y pum cymeriad yn gorgyffwrdd yn y pum nofel. Yn eu tro, mae’r nofelau’n dathlu’r amrywiaeth sydd yng Nghymru heddiw ac yn trafod pynciau megis hil, rhywedd a iechyd meddwl.

Dywed Elgan Rhys, rheolwr a golygydd creadigol y prosiect ac awdur nofel gyntaf y gyfres Tim (gyda Tomos Jones):
“Yn y flwyddyn ddiwethaf mae llawer ohonom wedi dod i gredu nad oes amser i fod yn hunanfodlon gyda’n breintiau na pharhau i anwybyddu’r diffyg cynrychiolaeth yn ein diwydiannau creadigol. Gobaith Y Pump yw i annog ffyrdd mwy cydweithredol a chynhwysol o greu gwaith newydd, cyffroi rheiny sydd ddim wedi arfer gweld eu hunain mewn llenyddiaeth Gymraeg, a rhoi platfform i leisiau newydd Cymreig gael eu adlewyrchu’n awthentig.”

Dywed Manon Steffan Ros, mentor creadigol yr awduron:
“Mae hi wedi bod yn fraint gwirioneddol cael bod yn rhan o’r prosiect yma. Gwreiddyn y prosiect oedd deisyfiad Elgan i greu cyfleoedd i rymuso lleisiau newydd o fewn llenyddiaeth Gymraeg, a thrwy hynny mae o, a gweddill yr awduron, wedi creu cyfres unigryw, difyr a hollol gyfareddol. ”

Cafodd clawr pob nofel ei ddylunio gan Steffan Dafydd (@penglogco) gyda’r awduron a’r cyd-awduron yn mynegi barn ar hyd y daith. Dilynwch gyfrif instagram @ypump_ i weld gwaith dylunio Steffan ac i gael holl newyddion a gwaith hyrwyddo’r awduron a’r cyd-awduron. Ewch i ymweld hefyd â sianel Y Pump ar AM www.amam.cymru/ypump i weld cynnwys diweddaraf y gyfres.

Dywed Meinir Wyn Edwards, Golygydd yng ngwasg Y Lolfa: “Mae’n bleser gan y Lolfa gyhoeddi nofelau mor bwerus ac mor ffres ar gyfer oedolion ifanc, ac maen nhw’n sicr yn torri tir newydd yn yr iaith Gymraeg. Mae’n brosiect uchelgeisiol, ac mae’n gyffrous iawn fod gan Gymru awduron ifanc talentog tu hwnt sydd wedi creu pum nofel a phum cymeriad a fydd yn aros yn y cof.” 


Dywed Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi, Cyngor Llyfrau Cymru:
 “Mae’r Cyngor yn falch iawn o allu cefnogi awduron, dylunio, cyhoeddi a marchnata’r gyfres ac yn gweld hwn yn fodel cyffrous iawn o weithio, wrth i dîm o awduron ddilyn arweiniad a gweledigaeth Elgan a derbyn cefnogaeth Manon, i gynhyrchu cyfres o lyfrau amserol a phwysig ar yr un pryd, heb orfod disgwyl misoedd am y nesaf bob tro. Rydym yn falch o gefnogi nofelau cyntaf pedwar o’r awduron ac yn edrych ymlaen at weld y cyd-awduron yn cyhoeddi eu gweithiau llawn eu hunain yn y man.” 

Mwy am awduron a chyd-awduron Y Pump:
Tim – Elgan Rhys gyda Tomos Jones
Cafodd Elgan Rhys ei fagu ym Mhwllheli, ac mae’n byw yng Nghaerdydd ers degawd. Mae’n gweithio yn bennaf ym maes theatr, fel awdur (Woof), perfformiwr (Chwarae) a chyfarwyddwr (Llyfr Glas Nebo). Ei rôl fel awdur, rheolwr creadigol a golygydd cyfres Y Pump yw ei brosiect cyntaf yn y sector cyhoeddi.
 
Mae Tomos Jones yn 18 oed ac yn byw yng Nghaerdydd. Dyma’r nofel gyntaf mae wedi helpu i’w chreu. Ei obaith yw aros yng Nghaerdydd er mwyn astudio’r Gymraeg yn y brifysgol.
 
Tami – Mared Roberts gyda Ceri-Anne Gatehouse

Mae Mared Roberts yn dod o ardal Cei Newydd, Ceredigion. Graddiodd mewn Ffrangeg a Sbaeneg o Brifysgol Caerdydd ac mae bellach yn gyfieithydd. Hon yw ei nofel gyntaf.
 
Mae Ceri-Anne Gatehouse yn ysgrifennwr ac yn fardd sydd ar hyn o bryd yn dilyn cwrs gradd BA Drama ac Ysgrifennu Creadigol yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Mae’n falch iawn o weithio ar nofel sy’n rhoi cynrychiolaeth i bobl ifanc sy’n cael eu tangynrychioli.

AniqMarged Elen Wiliam gyda Mahum Umer

Yn wreiddiol o Fangor, mae Marged Elen Wiliam bellach yn byw yn Nghaerdydd ar ôl cyfnodau yn byw ac astudio yn Llundain a Chaergrawnt. Yn diweddar, cwblhaodd radd MPhil mewn Astudiaethau De Asiaidd. Mae’n gweithio fel swyddog polisi ac yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser sbâr yn sgwennu neu’n synfyfyrio.

Mae Mahum Umer yn Bacistani trydedd genhedlaeth a anwyd yng Nghymru, ac mae‘n falch o‘i gwreiddiau Pacistanaidd a Chymreig. Mae’n astudio Cymraeg ac yn gobeithio defnyddio ei phrofiadau i ddod ag amrywiaeth i lenyddiaeth a’r cyfryngau, gan ddechrau gydag Aniq, ei phrofiad cyntaf o weithio ar nofel.

Robyn – Iestyn Tyne gyda Leo Drayton
Daw Iestyn Tyne o Lŷn yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae’n un o olygyddion Cyhoeddiadau’r Stamp, ac mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth. Dyma’i nofel gyntaf.

Mae Leo Drayton yn fachgen traws o Gaerdydd. Ar ôl gadael Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf aeth i wirfoddoli yng Nghambodia cyn mynd i’r brifysgol. Dyma’r nofel gyntaf iddo weithio arni ac mae’n hoff o ysgrifennu barddoniaeth.

Cat – Megan Angharad Hunter a Maisie Awen
Mae Megan Angharad Hunter yn dod o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ac yn astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 2020, enillodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru cyn cyhoeddi tu ôl i’r awyr, ei nofel gyntaf i bobl ifanc.

Mae Maisie Awen yn 18 oed ac yn dod o Sir Benfro. Mae’n astudio’r celfyddydau perfformio ac yn caru pob math o gelfyddyd. Cat yw’r nofel gyntaf iddi weithio arni ond mae wedi bod yn sgwennu barddoniaeth a straeon byrion ers blynyddoedd.

RHANNWCH