Y Rhestr Fer Gymraeg (Cynradd)
Gwag y Nos – Sioned Wyn Roberts (Atebol)
Dyma nofel hanesyddol i ddarllenwyr ifanc 9–11 oed. Hon yw nofel gyntaf Sioned Wyn Roberts i blant. Ers i Magi Bryn Melys, sy’n dipyn o rebel, symud i Wyrcws Gwag y Nos, mae hi wedi bod yn ddraenen yn ystlys Nyrs Jenat. Ond mae bod yn rebel yn beryglus, ac un bore mae pethau’n dechrau mynd o ddrwg i waeth i Magi. Mae’n amlwg bod rhywbeth mawr iawn o’i le yn y Wyrcws, ond pwy sydd ar fai? A fydd Magi’r rebel yn llwyddo i achub ei ffrindiau a datrys cyfrinach dywyll Gwag y Nos? Dyma ei stori hi …
Gwil Garw a’r Carchar Crisial – Huw Aaron (Llyfrau Broga)
Nofel graffig gan yr awdur a’r darlunydd Huw Aaron yw Gwil Garw a’r Carchar Crisial.
Cyn hanes, cyn y chwedlau, roedd … Gwil Garw! Ei swydd: cadw trefn ar greaduriaid hudolus y Sw Angenfilod. Y broblem: does dim diddordeb o gwbl ganddo mewn heddwch. Wedi i’w dymer a’i chwilfrydedd roi’r byd mewn perygl, mae’n rhaid i Gwil, rywsut, ffeindio ffordd i wella pethau. Dyma antur epig, lawn hiwmor a rhyfeddodau.
Sara Mai a Lleidr y Neidr – Casia Wiliam, darluniau Gwen Millward (Y Lolfa)
Dyma ddilyniant i enillydd Gwobr Tir na n-Og 2021, Sw Sara Mai. Mae Sara Mai yn ei hôl ac mae dirgelwch ar droed yn Sw Halibalŵ. Mae rhywun wedi dwyn neidr werthfawr iawn o’r sw, felly mae Sara a’i ffrindiau yn penderfynu ceisio dal y lleidr. Y cwestiwn mawr i’r criw ydy ai dieithryn sy’n gyfrifol, neu rywun sydd reit o dan eu trwynau?
Y Rhestr Fer Gymraeg (Uwchradd)
Fi ac Aaron Ramsey – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Mae perthynas Sam a Mo fel gêm bêl-droed – yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae’r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy’n creu tîm go iawn.
Hanes yn y Tir – Elin Jones (Gwasg Carreg Gwalch)
Dyma lyfr am hanes Cymru sy’n mynd â ni ar daith ddifyr, lawn darluniau. Cawn ein tywys o’r dechreuad cyntaf un, tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl, a chyfnod y bobl gynharaf fu’n byw mewn ogofâu, hyd at sefydlu’r Senedd yn 1999.
Y Pump – Gol. Elgan Rhys (Y Lolfa)
Deg awdur, pum nofel. Mae Y Pump yn ffrwyth llafur prosiect uchelgeisiol gan awduron ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae llyfrau Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddynt ddarganfod y pŵer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned. Gyda safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn ein tywys, down i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw.
Y Rhestr Fer Saesneg
10 Stories from Welsh History (That Everyone Should Know) – Ifan Morgan Jones, darluniau Telor Gwyn (Rily)
Nod y llyfr ffeithiol a darluniadol hwn yw annog plant i ddarganfod a dysgu mwy am ddeg stori o hanes Cymru. Cynhwysir hanesion am Gwenllian Ferch Gruffudd, Owain Glyndŵr, Barti Ddu, Dic Penderyn a Therfysgoedd Merthyr, Alfred Russel Wallace, Streic y Penrhyn, terfysgoedd hil yr 20fed ganrif, Eileen Beasley, Trychineb Aber-fan a Datganoli.
The Valley of Lost Secrets – Lesley Parr (Bloomsbury)
Medi 1939. Mae’r pentref bach y mae Jimmy, y faciwî o Lundain, yn symud iddo yn dawel ac yn wyrdd – dim byd tebyg i Lundain, ac mae’n teimlo’n anghyffyrddus yno’n syth. Pan ddaw o hyd i benglog mewn coeden mae’r cwm yn troi’n fwy brawychus na’r rhyfel. Pwy all Jimmy ymddiried ynddo? Mae ei frawd yn rhy ifanc ac mae ei ffrind gorau wedi newid.
Swan Song – Gill Lewis (Barrington Stoke)
Ar ôl cael ei ddiarddel o’r ysgol mae Dylan a’i fam yn symud i bentref ar arfordir Cymru at ei dad-cu. Yn ei gartref newydd heb Xbox na’r we, mae Dylan yn teimlo fel petai ar goll. Un diwrnod mae ei dad-cu’n mynd ag ef i wylio elyrch go arbennig, ac mae popeth yn dechrau newid.
Welsh Fairy Tales, Myths and Legends – Claire Fayers (Scholastic)
Dyma gasgliad o chwedlau Cymreig o bob math, wedi’u hailysgrifennu’n arbennig ar gyfer darllenwyr ifanc gan Claire Fayers. Yn eu plith mae hanes dreigiau sy’n chwalu castell a thywysoges wedi’i chreu o flodau, stori am blant tylwyth teg ac am Gelert y ci dewr, a hanes y bachgen chwilfrydig sy’n dod yn fardd o fri.