Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cyfnod y corona mewn ffocws

Llenyddiaeth

(gan Bethan Lloyd)
Cafodd y grŵp Facebook ‘Clic Clic i’r Corona’ ei sefydlu ar ddechrau mis Ebrill, ac mae ganddyn nhw dros 500 o aelodau…

Cafodd y grŵp Facebook ‘Clic Clic i’r Corona’ ei sefydlu ddechrau mis Ebrill, gan y ddwy ffotograffydd Sioned Birchall a Betsan Haf Evans.
Y bwriad oedd denu pobl oedd â diddordeb mewn ffotograffiaeth ac eisiau dysgu mwy. Erbyn hyn mae ganddyn nhw dros 500 o aelodau, ac mae mwy na 3,000 o luniau wedi eu hanfon i mewn.
Mae Sioned Birchall a Betsan Haf Evans yn gosod her wythnosol i’r aelodau ar thema benodol, ac maen nhw wedyn yn dewis enillydd ac yn rhoi adborth i’r rhai oedd yn haeddu clod.
Yma, mae’r ddwy yn sôn pam eu bod nhw wedi sefydlu’r grŵp, ac mae Rhian Cadwaladr, aelod brwd o’r grŵp, yn dweud beth sydd wedi ei hysbrydoli hi ers ymuno â ‘Clic Clic i’r Corona’…
Mae Sioned Birchall yn rhedeg cwmni Camera Sioned ac yn byw yng Nghaerdydd…
“Dw i wedi bod yn hunangyflogedig ers pedair blynedd. Dw i wedi bod mor ffodus achos dw i erioed wedi bod yn brin o waith ond, yn sydyn, roedd y tap wedi troi i ffwrdd [yn y cyfnod corona] ac roedd o’n sioc. Y gwanwyn a’r haf ydy’r adegau mwya’ prysur i fi fel arfer efo priodasau, ac roedd hyn wedi llorio fi….”

DARLLEN MWY

RHANNWCH