11-07-24
Ar-lein
Tocynnau am ddim
Cofrestrwch yma
Ymunwch â ni am sgwrs greadigol wrth i bethau arafu cyn ein seibiant ym mis Awst. Yn ymuno â ni i ddathlu lansio ymgyrch Hapus, y sgwrs genedlaethol am lesiant meddwl, fydd Emily van de Venter o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Byddwn hefyd yn clywed gan yr artist Claire Hiett, yr holl ffordd o ynys Cyprus, fydd yn rhannu’r gwaith a greodd fel rhan o’i chyfnod yn artist preswyl yn gynt eleni, wedi’i gyllido’n rhannol gan grant Mynd i Weld.
Bydd Alun Llwyd, Prif Weithredwr AM yn rhannu rhagor o wybodaeth am unig lwyfan digidol Cymru (gwefan ac ap) ar gyfer hyrwyddo’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru sydd â’r nod o sicrhau ymgysylltu hygyrch, cynhwysol a chymunedol.
Bydd cyfle hefyd i rwydweithio gydag aelodau eraill yn ystod y sesiwn.