Cartref digidol diwylliant Cymru.

“Cofrodd” – Iestyn Tyne

Llenyddiaeth

Wrth drafod gyda chwnselydd ym mis Tachwedd 2020, rydw i’n sylweddoli ’mod i heb godi’r ffidil ers deufis, tri; mwy, efallai. A dweud y gwir, y tro diwethaf i mi wneud, roedd hi’n angladd yn Awst; y gwynt yn herio’r tymor, yn cipio’r nodau’n uchel dros afon Dwyfach a Bwlch Derwin ac i lawr am y mor.

Rydw i’n gofyn i mi fy hun, ‘pam?’, fel sy’n ddisgwyliedig mewn sesiwn gwnsela. Ai dramateiddio fyddai dweud fod talu’r deyrnged olaf dan y fath amgylchiadau wedi trymhau’r offeryn, wedi ei gwneud hi’n anodd dychwelyd? Mae hynny, heb os, yn rhan o’r peth.

Ond wedyn rydw i’n sylweddoli rhywbeth arall, sef bod cerddoriaeth i mi erioed wedi bod ynghlwm a chymuned, grwp o bobl, cyfeillgarwch; cyd-greu, cyd-chwarae. cyd, cyd, cyd. Yng Ngholombia, yng Ngwlad y Basg, yn Llydaw; yng Nghaernarfon a Chaerdydd a Dinas Mawddwy. Heb hynny, mi es i’n ddi-awydd, yn ddi-ysbrydoliaeth, yn ddi-ysgogiad.

Ar fy mhen fy hun yr af ar y bererindod hon, flwyddyn yn ddiweddarach; o Arfon yn ol i Lŷn. Dilyn, heb ddilyn yn llwyr, hen lwybr y pererinion, o eglwys i eglwys. Y ffidil, fu’n segur cyhyd, yn cael ei gorfodi o’i distawrwydd.

Ychydig iawn o bobl a welaf, y tu hwnt i’r canolfannau poblog. Weithiau, rydw i’n dechrau perfformio ar ochr y llwybr, ac o bryd i’w gilydd daw cynulleidfa annisgwyl rownd y tro, oedi i fwynhau neu’n fwy na thebyg, wylio’n ddryslyd am ryw hyd cyn parhau ar eu taith. Ond yn amlach na pheidio, defaid a gwartheg, piod mor a gwylanod, morloi a geifr gwyllt, yw fy ngwrandawyr. Hynny, a phresenoldeb erchyll a chysurus y môr ar un ochr, sicrwydd ansad pridd a chlogwyn a chraig ar y llall.

Rwy’n dod i ddeall y gobaith sydd mewn gweld tŵr eglwys yn codi o seiad o goed, wrth drampio o Aberdesach ar hyd ymyl y ffordd fawr, neu rowndio’r tro am Bistyll. Deuaf, gydag amser a rhythm y cerdded, i dderbyn fy mod ar fy mhen fy hun, ac mai yn fy nghwmni fy hun y byddaf ar y daith hon. Mi gaf ganu’n uchel wrth fynd, gosod fy nghyflymder fy hun. Gorffwys pan fydd angen.

Rydw i’n sylweddoli fod fy nhechneg gerddorol wedi gwanio; rydw i’n ei chael hi’n anodd cyrraedd rhai nodau. Syml ac ailadroddus yw’r brasluniau o nodau a gasglaf yn oedfannau’r daith. Mae’n rhaid gweithio’n galed i gael gwared ar yr hunanfeirniadaeth sy’n fy llethu’n llwyr ar adegau. Diosg yr arfer o berffeithio, mireinio, caboli.

Yn fy sgwrs â’r cwnselydd, rydw i’n dod i ddeall mai perffeithydd ydw i wrth reddf mewn byd sydd a dim oll ynddo sy’n berffaith. Rydw i weithiau’n gwneud pethau ar ran pobl eraill am fy mod i’n credu y gallaf eu gwneud yn well, ac mae cyfaddef hynny yn gwneud i mi wingo. Weithiau, mae yna bethau na allaf wneud dim oll amdanynt yn fy ngwylltio’n rhacs. Ydi hi’n beth da nad oes llawer o signal ffôn ar y daith; nad oes modd i mi weld yr hyn sy’n digwydd yn Kabul a Phalesteina a Brasil, heddiw, rŵan?

Ar wastatir uchel gwaith Carreg y Llam ar Benrhyn Glas, rydw i’n teimlo am eiliad fel estronwr ar blaned ddieithr, felen; y creigiau’n ffurfiau annisgwyl. Cerddaf filltir neu ddwy arall a chyrraedd eglwys fach Sant Beuno ar gyrion Pistyll. Rhaid cau’r drws bob amser, rhag i’r geifr ddod i’r gysegrfan. Mae’r adeilad yn oer, yn heddychlon. Trwy len denau o goed, ac rwy’n cerdded trwy ddatblygiad newydd Nature’s Point, yn ferw tawel wrth basio’r adeiladau di-enaid. Mae capel Tom Nefyn, y methodd cymuned Pistyll a chodi digon o arian i’w phrynu eleni, yr un mor wag-llygeidiog.

Ym Mhenllech, rhaid gadael yr arfordir a chymryd trywydd gwahanol. Y tir wedi llithro, ac nid am y tro cyntaf eleni yn yr ardal hon; rhyw newid strwythur anesboniadwy yn y clogwyn wedi claddu’r llwybr. Pam rŵan? Aiff rhywun i feddwl am y tymhorau sydd heb fod yn dymhorau ers blynyddoedd.

Erbyn y pedwerydd dydd, y gwynt yn fy erbyn bob cam, mae’r daith wedi troi yn rhywbeth gwahanol i’r hyn oedd o wrth i mi adael drws fy nhŷ ar y diwrnod cyntaf. Mae haul a heli’r dyddiau cyntaf, glaw y trydydd a thymestl heddiw wedi pylu min fy uchelgais. Fy her i mi fy hun yw bodloni ar beidio amrywio fy nghyweiriau, ymfalchïo yng ngonestrwydd anorffenedig y tameidiau o alawon a gipiais ar hyd y ffordd.

Yn hytrach na datganiad hyderus, croyw; yn hytrach nag ymateb caboledig ac amlhaenog; fy nghofrodd yw’r cofnod hwn o ddychwelyd at lwybrau cyfarwydd, ac at y tannau, at y seiniau sy’n fy nghysylltu â phobl eraill a’u hanesion, a’u teithiau hwythau.

Adran I Caernarfon > Clynnog Fawr

Eglwys Sant Baglan, Llanfaglan / Afon Carrog / Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr

Adran II Clynnog Fawr > Nefyn

Mynydd Gwaith, Trefor / Porth y Nant / Gwaith Carreg y Llam, Penrhyn Glas / Eglwys Sant Beuno, Pistyll

Adran III Nefyn > Tudweiliog

Porth Nefyn / Aber Geirch

Adran IV Tudweiliog > Aberdaron

Traeth Penllech / Eglwys Sant Gwynhoedl, Llangwnadl / Trwyn Glas / Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron

RHANNWCH