Cartref digidol diwylliant Cymru.

Coflaid Cofid

16 | 12 | 2020
amam.cymru/pontio

Yn ôl sylfaenydd y prosiect, Iola Ynyr
“Mi dyfodd y syniad o Coflaid Cofid wedi i mi fynychu sawl grwp cefnogi hefo merched dros Zoom ar gychwyn y cyfnod clo. Trwy rannu yn agored am heriau ac ofnau a ddeilliai o’r profiad unigryw hwn, roedd modd i ni siarad yn onest a chynnig cefnogaeth i’n gilydd.

Dwi yn alcoholig mewn adferiad ac felly wedi arfer wynebu a rhannu am fy mhrofiadau o sut mae fy iechyd meddwl a chorfforol wedi effeithio ar fy llesiant. Ond mae Cofid wedi gorfodi pob un ohonan ni i wynebu ein hunain a gweld bod yna freuder a newid cyson yn ein iechyd meddwl a chorfforol.

Yn raddol, mi ddoth ambell sgwrs ar ochr ffordd neu yn ddigidol yn brofiad o ddangos pryder a breuder. Roedd yna grio a rhannu mewn ffordd nad oeddwn i wedi ei brofi o’r blaen gyda merched o bob oed a chefndir.

Teyrnged ydi’r prosiect digidol i ddewrder merched yn fodlon chwalu y ddelwedd o ‘berffeithrwydd’ er mwyn magu nerth i ddelio’n ymarferol ac ysbrydol hefo bywyd.

Mi ydw i wedi derbyn arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy nawdd y Loteri Genedlaethol i Gronfa Sefydlogi Unigolion i ymchwilio a datblygu ffilm fer fel dehongliad celfyddydol o gyfnod y Cofid . Mae Pontio yn bartner yn y prosiect a Cyngor Gwynedd hefyd wedi cyfrannu at gyflwyno’r celfyddydau mewn ffyrdd digidol newydd.”

Mae yna nifer o artistiaid wedi cyfrannu at y prosiect – Kristina Banholzer, Mirain Fflur, Lleucu Non, Nia Dryhurst, Sarah Argent, Elliw Haf, Marged Sion, Caryl McQuilling, Or Danon , Lindsay Walker a Nurit Gordon. Bydd y ffilm ddwyiethog yn cael ei dangos cyn y Nadolig ar ap AM .Bydd mwy o fanylion ar gael yn fuan ar wefan Pontio neu dilynwch @pontio_bangor a @iolaynyr ar Instagram.

Ein gobaith yw datblygu’r prosiect yn gynhyrchiad neu ddigwyddiad byw a digidol, aml ffurf ar gelfyddyd sydd yn dathlu gonestrwydd wrth wynebu heriau o bob math trwy greadigrwydd. Rydym yn dymuno mynegi y closio rhwng pobol yn ddaearyddol, ysbrydol, creadigol a chysyniadol trwy fforymau digidol- y paradocs o uno trwy ynysu.

Mae ymestyn y prosiect yn gymunedol yn bwysig i mi ac felly cyhoeddwyd galwad am luniau hardd a bregus gyda mymryn o goch gan ferched i’w harddangos ar Wal Wen Pontio.

Fel rhan o Coflaid Cofid, rydym yn gofyn i ferched rannu dau lun:
– un ohona ti ar dy hardda sud bynnag ti’n gweld hynny
– un pan ti’n teimlo ar dy wana a mwya bregus

Trwy ddathlu ein cryfder a’n poen, mi allwn ni gynnig cefnogaeth i ferched eraill fentro i ddangos eithafion ein profiadau. Rydym yn y broses o drafod sut i gyflwyno’r lluniau hyn oherwydd cyfyngiadau y cyfnod ond mae croeso i unrhyw ferched gyflwyno eu lluniau neu ddarn celfyddydol mewn unrhyw ffurf trwy gysylltu â coflaidcofid@mail.com . Mae croeso i chi gysylltu am wybodaeth pellach hefyd.

RHANNWCH