Cartref digidol diwylliant Cymru.

Clwb Nos Wener: Elin James Jones (Diota)

Llenyddiaeth

gan Rob Jones

Croeso i Glwb Nos Wener cynta ni. Bob hyn a hyn ar nos wener, fu ni’n eistedd lawr gyda phob math o fobl ddiddorol o wahanol gefndiroedd, a fu ni’n dod i nabod nhw drwy gwestiynau cyflym am eu hoff ddiod.
Wythnos yma, rydym ni’n cychwyn efo rwyn sy’n gwybod eu sdwff pan ma’n dod i ddiod. Mae Elin James Jones yn gwario’i amser sbâr yn ceisio darganfod y sin tu nol syched Cymru o dan yr enw Diota.cymru.
Credai Elin fod yna gymaint o bethau cŵl yn digwydd o fewn diwydiant diod Cymru, felly roedd hi eisiau creu platfform i ddathlu’r grefft a’r cynhyrchwyr tu nol hi. Felly os oes diddordeb a chi mewn darganfod y jin nesa ar y sîn neu coctêl sy’n digon hawdd i’w wneud dilynnwch Diota.cymru.

Dyma 5 cwestiwn cyflym i ddod i nabod Elin drwy y diod perffaith.

Dy hoff ddiod?
Well, dwi’n licio sawl coctel. A dwi’n gwybod be dwi ddim yn licio – sef coctels melys, a unrhyw beth gyda lot o siwgr. Dwi’n actually licio blas alcohol – felly sa fi’n mynd at wbeth fel Negroni (yfed un ar y funud!), neu Dry Martini. Dwi’n licio blas reit chwerw a sych – geiriau mae pobol fel arfer yn cysidro’n negyddol, ond dyna’n union dwi’n licio.
Dwi’n rili licio glased o champagne ysgafn a sych rili neis hefyd. Dwi’n licio Veuve Cliqo gan fod o hefo blas caramel neis. God, dwi’n swnio fel reit so and so.
Ond os fi’n gorfod dewis un, dry Martini gyda olive.

Ac os gallech chi fod yn yfed hwn yn unrhyw le, ble fyddai hynny?
Gwesty Gleneagles, yn yr Alban – ma nhw’n neu tray o Martinis!

Dy nos wener berfaith (ddim yn ystyried lockdown)?
Dwi’n dwlu ar Brunswick House yn Llundain. Hen blasdy yn Vauxhall sy’n fwyty anhygoel a siop antiques – man rili cwl. Fana gyda criw o ffrindiau am fwyd a cwpwl o goctels a wedyn dod adre a cal drincs yn yr ardd os mai’n braf.

Hoff far neu dafarn?
Rhaid e fod yn dafarn Hare and Hound yn Aberthin! Mae’r dafarn wedi’i rannu yn ddau – un ochr yn hen hen dafarn a teimlad cymunedol yn llawn cymeriadau lleol. Mae modd cerdded yno o dŷ fy rhieni – sy’n hyfryd, a dyna lle fues i ar brynhawn fy mhenblwydd yn 30… o, a ma nhw’n gwerthu champagne wrth y glasied fyd! Ma’r bwyty yn rhan arall yr adeilad hefyd yn hyfryd ac yn fwy modern- werth trio! Y chef yn fachgen lleol ac wedi cael canmolieth Michelin.

Peth gorau i ddod dros hangover?
Hmm, ma full english yn neud fi deimlo’n waeth. Ma rhai e fod yn chinese.

RHANNWCH