Chaos Wonderland yw seithfed albwm hir Colorama, sy’n darparu pop diamser, clasurol, eang. Mae’r albwm yn myfyrio ar harddwch ac anhrefn y byd a welodd y brif leisydd Carwyn Ellis wrth deithio gyda’r Pretenders. Pan safodd y byd yn llonydd yn 2020, daeth Carwyn a’r cynhyrchydd Shawn Lee at ei gilydd i gwblhau Chaos Wonderland – albym y dechreuon nhw ei recordio ddechrau 2018.