Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cefnogwch Siopau Llyfrau y Nadolig hwn.

Llenyddiaeth

Mae yna wledd o lyfrau newydd ar gael o’ch siop lyfrau leol.
Dyma bum cyfrol y byddwch yn sicr am eu darllen!

Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron
Ein hannog i ryfeddu at y byd o’n cwmpas mae Luned Aaron yn y llyfr hardd, Mae’r Cyfan i Ti.
Mae’r gyfrol yn cyflwyno’r byd i blant drwy gyfrwng y pum synnwyr. Dilynwn y dydd o’r wawr i’r machlud a’n cymell i deimlo dail yr hydref dan draed, arogli rhosod a blasu mwyar duon drwy’r darluniau cain, lliwgar, a rhythmau tawel y penillion swynol.
Gyda chyfieithiad Saesneg o’r testun yng nghefn y llyfr, dyma gyfrol annwyl a chynnes – mae’n ddelfrydol i’w ddarllen gyda phlant bach cyn cysgu.

Rhedeg i Parys gan Llwyd Owen
Mewn gwlad debyg iawn i’r Gymru gyfoes, mae’r newyddion eu bod yn disgwyl babi yn siglo Luned a Lee i’r byw ac maen nhw’n dianc o ardal Amlwch i ddechrau bywyd newydd.
Yn y bumed nofel yng nghyfres Gerddi Hwyan, caiff y darpar dditectif Sally Morris ei chyflogi gan y teulu gofidus i chwilio am eu merch, ond nid hi yw’r unig un sydd am ddod o hyd i’r cwpl ifanc.
Dyma antur gyffrous a pheryglus gan un o’n hawduron mwyaf gafaelgar, sy’n ein harwain i isfyd tywyll y brifddinas ac i galon lwgr y mynydd copr.

Twll Bach yn y Niwl gan Llio Maddocks
Mae Lowri mewn twll. Mae hi’n methu dod o hyd i waith, yn gorfod ymdopi â salwch ei mam, yn treulio pob noson yn yr un dafarn efo’r un ffrindiau, ac yn cael ei dympio.
Buan y mae hi’n dysgu na ddaw neb i’w hachub o’r twll sy’n tyfu’n fwy bob dydd. Mae’n rhaid iddi ei hachub ei hun.
Dyma nofel am dyfu i fyny ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, ac am fod yn Gymraes yn y cyfnod cythryblus yma.

Mynd gan Marged Tudur
Mynd yw’r gyfrol gyntaf o gerddi gan Marged Tudur, sy’n ymdrin â’r profiad o golli ei brawd. Mae’r cerddi’n ymateb yn uniongyrchol i’r wythnosau cyntaf wedi’r brofedigaeth, a’r heriau, yr ofnau a’r rhwystrau sy’n parhau dair blynedd yn ddiweddarach. Yn cyd-fynd â’r cerddi mae darluniau gan yr artist Elin Lisabeth.
Yn ôl Ceri Wyn Jones, dyma gerddi a fydd yn mynd â’ch gwynt: ‘Mae dawn dweud, sylwgarwch a doethineb y bardd yn sicrhau taw darnau o gelfyddyd gain, dawel angerddol, yw’r cerddi hyn, bob un.’

Hello Friend We Missed You gan Richard Owain Roberts
Nofel ddoniol a theimladwy am unigrwydd, Netflix, bodoli, bywyd gwledig, arian, Jack Black, a dysgu byw yn y ffordd leiaf arteithiol posib, yw hon.
Wedi ei lleoli yn Ynys Môn, dyma stori am bobl sydd wedi’u harfogi â phob cyfrwng cymdeithasol, ond sy’n methu cyfathrebu.
Enillydd gwobr Not The Booker Prize 2020 The Guardian.

Gall siopau llyfrau ledled Cymru gynnig argymhellion darllen a gwasanaeth personol, ynghyd â gofod i bori’n ddiogel ar-lein, trefn clic-a-chasglu, a dosbarthu drwy’r post.
Cefnogwch Siopau Llyfrau y Nadolig hwn.
Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol YMA

RHANNWCH