Cartref digidol diwylliant Cymru.

Catrin Kean: Category Winner, People’s Choice and Overall Winner – Wales Book of the Year 2021

Llenyddiaeth

Lle brwnt a diflas yw Caerdydd yn 1878 i Ellen sy’n breuddwydio am ddianc o’i bywyd yn gwasanaethu. Mae’n syrthio mewn cariad gyda Samuel ac yn llwyddo i wireddu ei breuddwyd trwy redeg i ffwrdd gydag ef. Ond mae bywyd ar y môr yn beryglus a chreulon, a phan mae’n dychwelyd adref mae’n darganfod bod caledi bywyd y dosbarth gweithiol a hiliaeth yn dechrau gwenwyno eu bywydau.

Dyfarnwyd lle i CATRIN KEAN ar gynllun Awduron Wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli ar gyfer egin awduron yn 2016-2018. Mae ei straeon byrion wedi eu cyhoeddi yn y Riptide Journal, Antholegau Bridge House a The Ghastling. Derbyniodd Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru yn 2020 ar gyfer datblygu ei chyfrol o straeon byrion, Fogtime. Salt yw ei nofel gyntaf. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i phartner a dau o gŵn cefngrwm.

RHANNWCH